Dau bwrpas oedd i'r daith, i godi ymwybyddiaeth i glefyd Cancr ac i godi arian at Ward Alaw a Chanolfan Caner Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, lle bu'n cael triniaeth.
Mae wedi sefydlu'r elusen Cariad, Gobaith, Cryfder i godi ymwybyddiaeth i'r clefyd.
Yn ogystal â'r daith gerdded, chwaraeodd gyngerdd unigryw ar y mynydd, yn y Tŷ Hanner Ffordd ac wedyn a'r gopa'r Wyddfa.
Dilynodd hyn gyda Chyngerdd yn y Galeri Caernarfon gyda'r nos.
Amcangyfrifir i'r penwythnos Snowdon Rocks godi £40,000.
Ceir mwy o fanylion ar http://www.lovehopestrength.eom . Ymysg y cerddwyr oedd criw o fro'r Goriad gan gynnwys Geraint a Lowri Jones, Penrhosgarnedd.
Hoffai'r criw ddiolch i bawb a fu mor hael yn cyfrannu.
|