91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Llywelyn a Gruffudd Tudur gyda'u gwaith coed. Busnes Dau Frawd
Hydref 2005
Fel ei frawd Llywelyn mae Gruffudd Tudur wedi dewis peidio mynd i astudio mewn Coleg.
Er iddo adael Ysgol Tryfan yn ystod yr haf wedi cwblhau cwrs lefel A nid oedd byd llyfrau yn apelio. Erbyn hyn mae wedi ymuno a'i frawd i fod yn bartner yn ei waith coed yn Y Faenol.

Dyna a ddewisodd Llew ei wneud hefyd bum mlynedd yn ôl. Aeth ef yn syth o'r ysgol i'r Faenol i ddechrau dysgu sut i adfer hen goed. Yn yr ysgol roedd wedi cymryd diddordeb mawr mewn gwaith coed a cherfio coed yn arbennig. Yna bu'n dilyn cwrs NVQ a chwrs gradd Cadwraeth a Threftadaeth gan astudio dodrefn.

"Fel mae pobl yn gwybod mae'n teulu ni yn rhai academaidd ond rydan ni'n dau wedi gadael hynny i'n brawd Dafydd!", eglurodd Llew yn gellweirus.

Dechreuodd ei fusnes gwneud dodrefn ei hun gan rentu adeiladau yn Y Faenol. Yna dri mis yn ôl ymunodd Gruffudd ag ef i ddechrau busnes Coed Menai. Roedd hynny mewn pryd ar gyfer dangos eu gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yng Ngŵyl Bryn Terfel.

"Roedd hynny'n llwyddiannus iawn. Mae'r Cymry yn barod i gefnogi pobol ifanc lleol, dyna be' 'dan ni wedi sylwi," meddai Llew.

Am ddwy flynedd bydd Gruffudd yn dilyn cwrs gwaith mainc yng Ngholeg Menai yn ogystal â bod yn rhan o'r busnes. Ond bydd ei frawd wrth law bob amser i gynnig cyngor ymarferol yn y gweithdy, boed wrth wneud crud, bwrdd neu gegin.

"Rydan ni'n dueddol o ateb gofynion cwsmer yn hytrach na gwneud dodrefn i'w dangos, dyna pam 'does 'na fawr o stoc yma," esboniodd Llew. "Ac mae'n dibynnu ar y cwsmer pa bren fyddwn ni'n ei ddefnyddio."

Mae'n ddyddiau cynnar i'r ddau frawd o Ffordd y Coleg.

Ychydig iawn o gymorth ariannol y maent wedi llwyddo i'w gael hyd yma o gyfeiriad sefydliadau'r Llywodraeth a'r Cynghorau ond nid yw hynny wedi torri eu calon. "Mae gynnon ni gynllun busnes tair blynedd ac erbyn hynny rydan ni'n gobeithio y bydd pethau wedi sefydlu'n iawn."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý