91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Goriad
Cymraeg yn Gyntaf ym Mangor!
Hydref 2007
Ar dydd Sadwrn, 22 Medi, cafodd ymgyrch Cymraeg yn Gyntaf ei lansio mewn 19 ardal yng Nghymru, ac roedd Bangor yn un ohonynt!
Roedd Bangor yn croesawu'r ymgyrch, sy'n targedu siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, er mwyn eu hannog i fentro defnyddio'r Gymraeg cyn y Saesneg wrth ddechrau sgwrs.

Bu Canolfan Siopa Deiniol yn llawn bwrlwm a phrysurdeb, gyda Sarah Louise a'r band yn diddanu, yn ogystal a Howard Hughes, consuriwr Cymraeg lleol a oedd yn gwneud pob mathau o bethau hudol gyda balwns o bob lliw a llun!

Roedd cerddoriaeth Gymraeg cyfoes i'w glywed dros yr uwch seinydd wrth i bobl siopa a defnyddio maes parcio'r ganolfan. Yn ogystal, cafwyd lansiad cynllun iaith 91Èȱ¬-Start Bangor yn ystod yr wythnos.

91Èȱ¬-Start yw elusen fwyaf blaenllaw y DU sy'n cefnogi rhieni sydd angen cymorth wrth fagu eu plant, ac mae ganddynt rwydwaith o dros 12,000 0 wirfoddolwyr hyfforddedig. Mae 91Èȱ¬-Start Bangor, sydd wedi ei leoli ym Mharc Menai, yn credu ei bod yn bwysig iawn fod y gwirfoddolwyr sy'n cynorthwyo yn ardal Bangor yn ddwyieithog, ac yn gallu cyfathrebu gyda'r teuluoedd yn eu mamiaith.

Yn ôl Sian Rowlands, trefnydd 91Èȱ¬-Start Bangor, "Mae'r teuluoedd yn croesawu'r gwirfoddolwyr i'w cartrefi er mwyn eu cynorthwyo, felly mae'n hanfodol mewn ardal fel Bangor ein bod ni yn gallu cynnig gwirfoddolwyr sy'n gallu siarad Cymraeg.

Credaf fod y cynllun iaith yn dangos ein ymrwymiad i hyn. Rydym wastad yn chwilio am wirfoddolwyr newydd, felly cofiwch amdanom ni os gallwch gynnig ychydig o'ch amser i'n helpu ni!".

Roedd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi eu trefnu o dan ofal Bwrdd yr laith Gymraeg er mwyn hybu ac annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgyrch - o sesiynau magu hyder yn y Gymraeg i staff Morrisons Bangor, i gig yn y Glob gyda'r band poblogaidd Gwibdaith Hen Fran, digwyddiad a oedd yn cyd-fynd ag Wythnos y Glas y Brifysgol.

Cafwyd wythnos lawn bwrlwm a bu'r ymgyrch yn gyfle i bobl weld a chlywed gymaint o Gymraeg sydd yn yr ardal gan godi eu hyder i ddechrau sgwrs yn Gymraeg yn y dyfodol.

Gobeithio y bydd yr wythnos o brysurdeb wedi bod yn hwb tuag at gynnal digwyddiadau tebyg gydol y flwyddyn lle bydd y Gymraeg yn chwarae rhan amlwg.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý