Roedd Oriel Bangor yn orlawn ar gyfer noson agoriadol eu harddangosfa nos Wener, 20 Mehefin.
Yng ngeiriau'r Athro Mike Knowles, "Mae pob arddangosfa'n ddathliad i'r artistiaid dan sylw, yn glo ar gyfnod o waith caled a chanolbwynt pendant.
"Ar yr achlysur hwn, graddedigion cyntaf y cwrs gradd rhan-amser neilltuol, ac o bosibl unigryw mewn Celfyddyd Gain, ym Mhrifysgol Bangor yw'r arddangoswyr a hwythau, fel y cyfryw, yn arloeswyr a phob rheswm dros ddathlu carreg filltir bwysig ar gychwyn eu gyrfa".
|