Hwn yw'r rhan sydd ar y chwith ac mae Rhif 2 ar y dde gan fod y capel wedi ei rannu'n ddau.
Roedd y tenantiaid cyntaf i fyw yno, Gethin a Nia Morgan a'u plentyn blwydd a hanner Joseff, yn barod iawn i ddangos eu tÅ· newydd i mi.
Maen nhw wedi setlo yma ers ychydig wythnosau wedi iddyn nhw symud o Gaerdydd i weithio ym Mharc Menai. Digon prin y bydden nhw wedi breuddwydio byw lle bu sawl Joseff arall yn ymddangos ar hyd y blynyddoedd.
Un o Lanfairpwll yw Gethin a Nia yn enedigol o Rosllannerchrugog. Fel yr eglurodd Nia does 'na ddim teimlad eich bod mewn capel pan ewch chi i mewn i'r tÅ·. Fyddech chi ddim mymryn callach eich bod mewn man a fu'n lle o addoliad am gan mlynedd. Dim ond y drws allan sydd wedi aros. Roedd rhaid cadw hwnnw yn unol a'r rheolau cynllunio. Mae pob mymryn o'r gweddill yn newydd sbon.
Roeddwn i'n hanner disgwyl yr hen doiledau ar y chwith ond roedd y lle wedi newid cymaint fel nad oedd modd cofio dim am gynllun yr hen gapel! Mae pob ystafell, o'r gegin, yr ystafell gyntaf ar y chwith ar y llawr isaf i'r ystafell fawr braf ar y trydydd llawr, yn rhai dymunol dros ben.
Oherwydd maint y ffenestri mae digon o olau ym mhob ystafell. Mae'r rheini i gyd wedi'u lleoli ar y chwith er mwyn gwneud defnydd o'r ffenestri gwreiddiol. Y grisiau sydd ar y dde. Mae hynny'n rhoi'r argraff ei fod yn dÅ· cul ond argraff yn unig yw hynny. Does dim dwywaith ei fod yn dÅ· braf a dymunol. Ac un fantais fawr - dim gardd. Nefoedd!
|