Os nad ydych, mi gewch sioc bleserus pan ewch chi. Er bod yr adeilad brics coch gyda'i giatiau du yn
dal i edrych yr un fath o'r tu allan y tu mewn mae'r lle wedi ei drawsnewid.
Rhwng mis Ionawr a dechrau Awst eleni bu'r adeiladwyr, cwmni G. M.
Jones o Lanrwst, wrthi'n brysur yn gwireddu cynlluniau'r pensaer, sef John Allan o Lanfairfechan.
Ailagorwyd y
drysau ar 6 Awst a bydd agoriad swyddogol ar 23 Hydref gyda'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred
Jones.
Roedd y staff wedi bod yn pwyso ers blynyddoedd am adfer ac atgyweirio'r adeilad.
Yn awr, ar ôl misoedd yn
rhedeg y gwasanaeth mewn cartref dros dro yng Nglanrafon, mae'r staff wrth eu bodd eu bod yn ôl yn eu cynefin a'r gwaith wedi'i orffen.
Mae'r lle'n edrych yn llawer mwy nag ydoedd cynt. Mae'r adran blant wedi symud i lefel sy'n is na'r llawr, ac mae grisiau'n arwain i
fyny i'r llawr mezzanine newydd lle ceir casgliad o gyfrifiaduron at ddefnydd y
cyhoedd yn ogystal a swyddfeydd y staff.
Y gwahaniaeth mawr arall yw'r
lliwiau, gyda glaswyrdd a phinc tywyll cryf ar rai waliau'n gwrthgyferbynnu'n effeithiol gyda waliau eraill sy'n glaerwyn.
Ac mae cadeiriau yn yr un lliwiau cryf yn creu effaith liwgar iawn.
Newydd sbon hefyd yw'r dodrefn a'r silffoedd pren golau, a ddarparwyd gan gwmni o'r enw Point Eight. Yn y cyntedd mae yna beiriant coffi ac
arwydd yn hysbysebu'r cysylltiad Wi-Fi.
Yn ôl Rhiannon Clifford Jones, Hyrwyddwr Gwasanaethau Llyfrgell Gwynedd, roedd yr adeilad mewn cyflwr difrifol.
Fodd bynnag, mae hi a gweddill y staff wrth eu boddau yn awr fod ganddynt adeilad sy'n fodern ond sydd ar yr un pryd yn cadw nodweddion a chymeriad yr adeilad gwreiddiol.
"Mae'r adeilad yn dyddio'n ôl i 1907. Dyna pryd yr agorodd y llyfrgell fel un o lyfrgelloedd Carnegie.
"Ac am ei fod o'n adeilad sydd wedi'i restru, roedd yna gyfyngiadau pendant ar yr hyn roedden ni'n cael ei wneud.
"Mae'r nenfydau wedi aros yr un fath, ac mae'r ffenestri gwreiddiol yn dal yna gan gynnwys un ffenest yn y nenfwd efo gwydr lliw ynddi. "Ryden ni'n bles iawn efo'r modd
mae'r gwaith wedi'i wneud gan barchu'r
nodweddion gwreiddiol yma."
Peth arall sydd wedi calonogi Rhiannon a'i staff fu derbyn neges e-bost yn ddiweddar gan wraig o Awstralia a oedd wedi ymweld a'r llyfrgell fel ymgynghorydd rai blynyddoedd yn ôl.
Roedd y wraig hon, ar ymweliad arall a Bangor rai wythnosau'n ôl, wedi digwydd galw i mewn i'r llyfrgell ac wedi cael agoriad llygad.
Yn y neges roedd hi'n canmol y gwaith ail-wneud i'r cymylau, gan
ddweud ei fod o "ben ac ysgwydd uwchben unrhyw beth arall yr ydw i wedi'i weld yn y Deyrnas Unedig".
Ond beth tybed yw barn pobol leol am y llyfrgell ar ei newydd wedd?
Bu gohebydd y Goriad yn holi rhai o'r defnyddwyr ac mae'n ymddangos eu bod hwythau wedi'u plesio.
Roedd Einir Hughes o Ddeiniolen, mam i dri o blant, wedi dod draw ar fore Sadwrn i chwilio am adroddiad ar gyfer Eisteddfod Waun Gynfi.
"Mae yna adran blant dda iawn yma," meddai, "ac mae o'n edrych fel petai yna fwy o le hefyd."
Gyda hi roedd ei merch Glain (7 oed) a oedd yn canmol y bwrdd chwarae newydd sydd yn yr adran blant.
Roedd Jeannie Bishop o Abergwyngregyn hithau yno gyda'i thri phlentyn, yn hapus iawn gyda'r lle.
"Mae o wedi'i osod allan yn dda ac yn edrych yn gyffrous," meddai. "Ac am y peiriant coffi yn y cyntedd, wel mi fydda
i'n bendant yn defnyddio hwnnw pan gaf gyfle i ddod yma ar ben fy hun, heb y plant!"
Sôn am yr "awyrgylch braf a'r cyfuniad o nodweddion traddodiadol a modern" yr oedd Lowri Elis o Fangor, sydd yn
dod i'r llyfrgell yn gyson gyda'i meibion.
Ac roedd un o'r bechgyn hynny, Gethin a'i ffrindiau Carwyn a Tomos (y tri yn 8 oed), yr un mor frwd, yn defnyddio
geiriau fel "cŵl" a "rhagorol" ac yn hapus iawn i weld fod yna fwy o gemau cyfrifiadurol ar gael i'w benthyca erbyn hyn.
Gobaith y staff yn awr, yn ôl Rhiannon Clifford Jones, yw fod "trigolion Bangor a'r cylch yn mynd i wneud defnydd helaeth o'r llyfrgell fodern unfed ganrif ar hugain sydd
ganddon ni rŵan".
"Yn ogystal a llyfrau, mae ganddon nj gymaint o bethau eraill i'w benthyca ffilmiau ar DVD, cryno-ddisgiau, storiau ar dap, sachau stori i'r plant, ac mae'r cyfrifiaduron at ddefnydd pawb.
"Ryden ni hefyd yn gobeithio ehangu'r digwyddiadau a'r gweithgareddau. Mae ganddon ni grŵp darllen i oedolion a gweithgareddau i blant hyn, ac ryden ni'n gobeithio ailddechrau'r awr stori i blant bach, ymhlith llawer o bethau eraill."