Mae'r siop yma bum gwaith yn fwy na'r hen siop. Mae'r datblygiad yn rhan o gynllun i drawsnewid hen ganolfan siopa Wellfield.
Cafodd honno ei hadeiladu yn 1964. Bydd 23 o siopau yng Nghanolfan newydd Menai a llefydd parcio i 400 o geir. Gobaith y datblygwyr yw y bydd y siopau newydd yn fodd i gadw siopwyr rhag mynd i drefi eraill i wario.
Ar 3 Ebrill, caeodd Prif Swyddfa Bost Bangor ei drysau am y tro olaf. Mae'r gwasanaeth wedi symud o'r hen adeilad yn Stryd Deiniol, sydd rŵan ar werth, i siop W. H. Smith ar y Stryd Fawr. Efallai na chaiff y datblygiad yma yr un croeso a'r siop newydd!
Ar ôl 33 o flynyddoedd mae JOHN EVANS, Y FELINHELI hefyd wedi cau drysau - ei fodurdy! Mae'n dweud ei fod yn edrych ymlaen am seibiant, ond nid yw am fod yn segur am yn hir. Bydd colled fawr ar ei ôl gan ei gwsmeriaid a phobl y pentref.
|