Buom yn cymryd rhan mewn gweithgareddau difyr iawn gan gynnwys Gwasanaeth Carolau Llangollen.
Hefyd gwasanaethau yng ngŵyl Carolau Cadeirlan Bangor; ar ddau achlysur; Cyngerdd Grav yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Cyngerdd Dathlu'r Gamp Fawr gyda'r Stereophonics,
Heather Small a Rhydian, heb sôn am ymddangos yn fyw ar y teledu yn Iwerddon.
Buom yn canu yn gymharol ddiweddar i godi arian tuag nifer o achosion da.
Yn
gyntaf at y salwch Motor Neuron gyda chantorion poblogaidd a hwyliog Colin Jones.
Hefyd codi arian mewn cyngerdd yn Amlwch tuag at Ysbyty Walton, Lerpwl.
Un o uchafbwyntiau 2009 oedd rhannu llwyfan fel rhan o ddathliad Rhys Meirion ar gyfer Gŵyl Gobaith yn Gwynsery Hall yn Y Wyddgrug diwrnod i'w gofio pan fuom yn rhannu llwyfan gyda rhai o sêr amlycaf Cymru, sef Rhys Meirion ei hun, Shan Cothi, Mark Evans ag Only Men Allowed, Ysgol Glanaethwy a Char Trelawnyd.
Y penwythnos canlynol roedd y côr yn Llanberis yn rhannu llwyfan gyda seren roc amlwg arall sef Mike Peters yr Alarm yn Snowdon Rock 3, er mwyn casglu arian tuag at Ymchwil Cancr.
Profiad anhygoel oedd canu hanner ffordd i fyny'r Wyddfa yn y glaw!!
Mae tipyn mwy o hanes y côr ond i
chi i ddilyn yn y rhifyn nesaf o'r
papur a chofiwch fod croeso i
gantorion newydd ymuno a ni yn y
pedwar llais, dim ond i chi gysylltu
a chydlynydd y côr ar 01248
600678, ac fe gewch chithau
fwynhau ein cwmni.
Joyce Roberts
|