Mae'r arian wedi ei neilltuo rhwng Hospis Paul Sartori a Hospis Shalom, a gwahoddir y ddwy gymdeithas i baratoi cais ar y cyd er mwyn rhannu'r arian, dros gyfnod o dair blynedd, gan adlewyrchu anghenion am ofal lleddfol a darpariaeth gwelyau cynhaliol yn y sir. Mae Sefydliad Paul Sartori yn bodoli ers 20 mlynedd dan weinyddiaeth staff cyflogedig a thîm eang a brwdfrydig o wirfoddolwyr mewn llawer ardal gyda chefnogaeth cyfranwyr yn Sir Benfro, ac wedi darparu hospis yng Nghartref Langton yn Scleddau. Gweithredir Ymddiriedolaeth Shalom gan wirfoddolwyr ers i'r awdur, Elizabeth de Guise, roddi ty yn Heol Non, Ty Ddewi, at eu gwasanaeth. Codwyd arian i addasu'r adeilad yn hospis pum ystafell drwy garedigrwydd y cyhoedd. Mae'r ddwy gymdeithas wrth eu bodd gyda'r newyddion hyn.Dywedodd Margaret Burnett, sylfaenydd ac ymddiriedolwraig Shalom: "Rydym yn hapus iawn o gefnogaeth y Cynulliad, a chael cyd-weithio'n gyflenwol â Paul Sartori." Ategodd Lorna Johns, gweinyddwraig Paul Sartori: "Er nad yw unrhyw un o'r cymdeithasau yn Sir Benfro wedi derbyn yr arian o'r Cynulliad hyd yn hyn, mae'r drafodaeth rhwng y ddau hospis yn parhau. Gobeithiwn y gwireddir hyn yn fuan." Defnyddir yr arian, pan ddaw, at gostau cynnal y darpariaethau, nid at gostau adeiladu. Felly, mae angen cefnogaeth barod y cyhoedd o hyd ir ddwy gymdeithas haeddiannol hon.
|