Yn ogystal â rhoi blas o un o ardaloedd hardda'r wlad, fe fydd y cynllun yn hwb i'r diwydiant twristiaeth ac yn helpu i roi cyfle i bobl ifanc aros yng nghefn gwlad.Fe fydd Gwyl Haf Bach Mihangel, sy'n cael ei chynnal ar benwythnos ola' mis Medi yn Nhrefdraeth yn cynnig pecyn gwyliau cyflawn, gan roi cyfle i bobl aros mewn llety Cymraeg a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau Cymraeg naturiol.
Fe fydd adloniant a theithiau lleol yn rhan o'r pecyn, gan ddechrau gyda thwmpath dawns ar y nos Wener, yna bore o chwaraeon i'r plant, taith gerdded ar lethrau'r Preseli, canu a charioci Cymraeg ar y nos Sadwrn, a thaith fws hyd lwybrau'r Mabinogion, Merched Beca ac enwogion fel Waldo a'r seintiau cynnar ar y dydd Sul.
"Ymuno gyda gweithgareddau sy'n digwydd yn yr ardal beth bynnag fydd yr ymwelwyr," meddai Tecwyn Ifan, swyddog datblygu Menter laith Sir Benfro, sy'n trefnu'r cynllun. "Fe fydd pobl leol a phlant y cylch hefyd yn cymryd rhan. Mae hynny'n sicrhau y bydd y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n gwbl naturiol."
Gan fod gwaith amgylcheddol yn rhan bwysig o fywyd Trefdraeth hefyd, fe fydd cyfle i ymweld â'r Eco-ganolfan leol. Fe fydd y cyfan yn gorffen gyda chinio dydd Sul traddodiadol ac mae llawer o'r busnesau llety'n cynnig bwyd Cymreig a lleol.
"Mae'n gyfle arbennig i ddysgwyr gael gwyliau i'w gofio a gwella'u Cymraeg yr un pryd," meddai Tecwyn Ifan. "Ar yr un pryd, fe fydd yn gyfle i siaradwyr Cymraeg ddod i adnabod rhan hynod o'r wlad a chael blas o ddiwylliant Cymraeg naturiol a chyfoethog iawn."
Cynllun peilot yw Gwyl Haf Bach Mihangel ond, os bydd yn llwyddo, fe allai ddatblygu'n ddigwyddiad blynyddol, gan ymestyn y tymor gwyliau i fusnesau lleol.Eisoes, mae'r syniad wedi cael cefnogaeth frwd gan fusnesau Trefdraeth, yn Gymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd, ac fe fydd nifer sylweddol ohonyn nhw yn rhan o'r cynllun.
Mae perchnogion busnesau gwyliau yn ardal Trefdraeth yn rhoi croeso cynnes iawn i Wyl Haf Bach Mihangel.Fe fydd yn denu math newydd o ymwelwyr i'r ardal a hynny ar adeg sydd fel arfer yn gymharol dawel.Fe fydd yn denu math newydd o ymwelwyr ir ardal a hynny ar adeg sydd fel arfer yn gymharol dawel.
"Fe fydd e'n dda i ni fel busnesau ac fe fydd e'n dda i'r diwylliant a'r iaith," meddai Jean Dunham, gwraig o Drefdraeth a ddaeth yn ôl i'r ardal a dechrau cadw llety gwely a brecwast Soar Hill bedair blynedd yn ôl. "Fydda'i wastad yn ceisio rhoi blas i ymwelwyr o'r diwylliant a'r iaith a fydda' i'n sôn am y cymeriade yr o'n i'n eu cofio yn yr ardal. Mae e'n brofiad newydd iddyn nhw ac maen nhw wrth eu bodd," meddai.
"Mae cymaint o bethe i'w gweld yn y rhan hyn o Sir Benfro. 'R'yn ni hanner milltir mas o'r dref ac mae'r golygfeydd yn wych."
* Dyddiadau Gwyl Haf Bach Mihangel - Medi 26 hyd Medi 28.