Ar ddydd Iau, 12 o Chwefror cafwyd Noson Agored yn Arddangosfa Under Milk Wood (1971) yn oriel Llyfrgell y Dref, Abergwaun. Daeth nifer fawr o bobl leol i gyfnewid atgofion ac i edrych ar y deunyddiau sydd wedi deillio o'r prosiect cymunedol yma.
Mae'r arddangosfa ar agor tan ddiwedd y mis, ac mae'n debygol y bydd yn cael ei hailosod yn yr oriel ar gyfer gwyliau'r Pasg hefyd, gan fod nifer wedi dangos diddordeb i ymweld â hi bryd hynny. Derbyniodd y grwp cymunedol nawdd gan PAVS a Chyngor Sir Penfro ar gyfer y prosiect.
Mae llawer o ddeunyddiau newydd wedi dod i law yn ddiweddar yn ymwneud â'r cyfnod ffilmio - yn ffotograffau a chofnodion. Er na fydd yn bosib cynnwys rhain yn llawlyfr y prosiect, sydd ar gael yn rhad ac am ddim yn yr arddangosfa ar hyn o bryd, mi fydd yn hollol bosib eu cynnwys yn y DVD sy'n cael ei baratoi.
Os oes gan unrhyw un ddeunydd diddorol i gyfrannu, dyw hi ddim yn rhy hwyr. Mae croeso i bawb i ymweld â'r arddangosfa yn ystod oriau llyfrgell, yn Neuadd y Dref.
Roedd brwdfrydedd y criw a ddaeth ynghyd i'r Noson Agored yn brawf o'r diddordeb mawr sydd mewn casglu ffotograffau a hanesion am y gymdogaeth leol. Daeth yn amlwg nad dyma ddiwedd y prosiect cymunedol yma! Efallai mai ymchwil i hanes y Regatta blynyddol yn y Cwm fydd y cam nesaf??
|