Prosiect hynod o werth chweil i'r wardeiniaid gwirfoddol oedd creu llwybrau cyswllt yn Dinas.
Treuliwyd oriau sylweddol yn clirio llwybrau troed sy'n arwain o'r olygfan sy'n edrych allan dros bentref Dinas. Fe osododd wardeiniaid Geoff Severn a Ioan Evans giatiau a dodrefn llwybr eraill. Fe ddywedodd Parcmon y Gogledd Richard Vaughan fod y gwaith wedi cymryd sawl wythnos ac wedi cyflwyno rhai anawsterau.
"Mae wedi bod yn waith heriol ond gwerth chweil," ychwanegodd. "Mae'r Wardeiniaid Gwirfoddol wedi ymdrechu'n galed ac rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda pherchnogion y tir, sydd wedi bod yn gefnogol iawn. Mae'r llwybrau newydd yn dod i gyfanswm o tua 1 km ac yn cysylltu gyda hawliau tramwy eraill i greu taith gylch ddymunol iawn o amgylch y pentref."
Pont Bren
Adnewyddwyd pont bren ar lwybr coetir poblogaidd yng Nghwm Gwaun ac adnewyddwyd rhyd ar draws nant yn gyfan gwbl hefyd diolch i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn ddiweddar, fe orffennodd y contractwyr, a oedd yn gweithio i Awdurdod y Parc, y gwaith yn Dan Coed, ger Pontfaen. Mae'r llwybr yn un o rwydwaith o hawliau tramwy yn yr ardal sy'n cael eu defnyddio'n dda.
Fe ddywedodd Uwch Barcmon y Gogledd, Geraint Harries, fod yr afon wedi torri o dan yr hen bont a'i fod yn gogwyd¬do'n ddifrifol.
"Roedd hi'n anodd ei chroesi, wedi ymsuddo ac mewn perygl o ddymchwel i mewn i'r nant. Mae'n beth da ein bod ni wedi rhoi pont newydd yno cyn iddi ddymchwel. Rydyn ni hefyd yn falch ein bod ni wedi gallu gwella'r bont oherwydd mae'r llwybr
ar gylch daith boblogaidd sydd wedi'i rhestru ar wefan y Parc Cenedlaethol, ac mae'n rhoi cyfleoedd da i gerddwyr fwynhau ardal arbennig Cwm Gwaun."
Fe fu'r contractwyr Young Brothers o Landysilio yn gwneud y gwaith a chafwyd peth o'r pren ar gyfer y bont trwy Ganolfan Goetir y Parc Cenedlaethol yng Nghilrhedyn gerllaw. Yn ddiweddar, fe fu Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, y Cynghorydd Stephen Watkins, yn archwilio'r gwaith.
(Llun: Parc Cenedlaethol)
|