Wrth i flwyddyn Llywyddiaeth y Parchedig Alwyn Daniels o Undeb Bedyddwyr Cymru ddirwyn i ben ganol 2008, fe fu yntau ac Irfon James ar daith gerdded noddedig a nodedig iawn.
Dros 21 diwrnod mewn cyfnod o chwech wythnos yn ystod Ebrill a Mai 2008, bu'r ddau yn cerdded y 186 o filltiroedd sef cyfanswm pellter Llwybr Arfordir Sir Benfro. Y bwriad oedd i godi arian i gynorthwyo elusennau lleol, cenedlaethol a thramor.
Petai'r daith wedi llwyddo i godi ychydig o filoedd, fe fyddai'r ddau wedi bod yn eithaf hapus. Ond bu'r ymateb yn syfrdanol yn y fro a thu hwnt, gan gael cefnogaeth gan lu o unigolion ac eglwysi. Felly ar nos Wener, Ionawr 9, daeth criw ynghyd i festri Tabor, Dinas, llawer ohonynt yn rai a ymunodd gyda'r ddau ar y daith, er mwyn cyflwyno'r arian i gynrychiolwyr yr elusennau a chael cyfle i fwynhau eto rai o olygfeydd godidog y daith trwy gyfrwng y sgrin fawr!
Roedd y cyfanswm a ddaeth i law yn £12,200 ac fe roddwyd y £2,200 i gynrychiolwyr o Glwb y Gateway yn Abergwaun.
Mr Jac Williams, Pontiago fu'n diolch ar ran yr Ambiwlans Awyr am y £5,000 a roddwyd iddynt hwy ac yna bu'r Parchedig Tom Defis, Caerfyrddin yn sôn am waith Cymorth Cristnogol wrth iddo yntau dderbyn siec ar eu rhan.
Roedd hon hefyd yn £5,000 ond oherwydd bod yr arian yn mynd tuag at gynllun Cymorth Dwr yn Ethiopia, roedd y Comisiwn Ewropeaidd yn cefnogi'r fenter ac yn treblu'r hyn a godwyd at yr apêl, felly gellid dweud bod y nawdd yma werth £20,000.
Nawr, nid bob dydd y gellid dweud bod taith gerdded yn codi'r hyn a oedd yn y pen draw werth dros £27,000!
|