Mae aelodau Clwb Nofio y Fishguard Flyers yn falch iawn mai nhw yw'r clwb cyntaf yn Sir Benfro i dderbyn tlws craidd Nod y Ddraig Nofio Cymru. Mae'r tlws yn seiliedig ar ddatblygu ochr weinyddol y clwb, yn canolbwyntio ar ddatblygiad y clwb a rôl gwirfoddolwyr ynddo.
"Mae'n dda iawn fod Abergwaun wedi cyrraedd y safon, ond megis dechrau yw hwn," meddai Lorna Johns, sy'n cadeirio pwyllgor y Fishguard Flyers. "Beth sydd ei angen nawr yw i fwy o bobl ymuno â'r clwb, yn enwedig plant o 7 oed i fyny ac sy'n gallu nofio, er mwyn i'r clwb fedru cynnal timoedd mewn cystadlaethau. Maent yn cwrdd bedair gwaith yr wythnos yn y ganolfan hamdden, ac os oes gan rywun ddiddordeb mewn ymuno gallwch ffonio'r hyfforddwr John Clarke ar 01348 891669.
Roedd dau aelod o bwyllgor y Fishguard Flyers, sef Corinna Davies a Francis Johns, yn falch dros ben eu bod nhw wedi derbyn cliniadur oddi wrth Nofio Cymru. Bydd rhain yn cael eu defnyddio yng ngwaith y clwb ac fe gafodd Corinna a Francis eu hyfforddi i ddefnyddio meddalwedd HYTEK sy'n eu galluogi i gadw gwybodaeth am nofwyr cystadleuol unigol. Bydd hwn yn caniatáu i'r clwb ddanfon gwybodaeth mewn dull electronig am yr aelodau sy'n cystadlu mewn cystadlaethau agored ar draws Prydain i'r awdurdodau sy'n eu rhestri yn ôl eu llwyddiannau
|