Yn absenoldeb Dyfed Elis Gruffydd tywyswyd y cerddwyr o'r maes parcio, heibio i Gors Fawr ac ymlaen i garreg coffa Waldo, gan Sian Bowen. Yno roedd Ken Davies a'i staff yn brysur yn coginio selsig, byrgers ac wynwyn i'r cerddwyr llwglyd a'r plant a'r ieuenctid yn cael un yr un am ddim. Bu'r Parch Eirian Wyn Lewis, cadeirydd y pwyllgor, yn brysur drwy'r nos yn disychedu'r sychedig rai!
Wedi cael digon i fwyta casglodd pawb o gwmpas carreg coffa Waldo lle bu Catrin Davies - gyda chymorth ei merch Einir Dafydd - yn diddori ac yn arwain y canu. Braf oedd gweld y plant, nid yn unig yn cael cyfle i ymuno yn y canu, ond yn cael cyfle hefyd i gyfeilio drwy chwarae'r amryw offerynnau y daeth Catrin gyda hi ar eu cyfer.
Teimlad pawb a fentrodd dros y mynydd i Fynachlog-ddu y noson honno oedd iddynt gael orig hyfryd iawn yng nghwmni ei gilydd, er i'r hinsawdd fynd braidd yn fain wedi i'r haul fynd lawr.
Bydd cyfle i'r plant a'r ieuenctid ddod at ei gilydd eto am ddwy awr rhwng 4 a 6 o'r gloch ar Hydref 4 pan gynhelir 'Hwyl Hydref' yng Nghanolfan Hamdden Ysgol y Preseli.
|