A dyw'r adeilad, sydd heddiw yn gartref i John Penn, ddim wedi newid llawer mewn canrif a hanner. Gweundir lom yw'r clos a'r ardd gefn o hyd. A dyw'r perchennog cyfoes ddim yn ddi-feind o'r gwr a adawodd yr aelwyd ar b'nawn Llun ym mis Mai 1839 i chwalu tollborth Efailwen yn yfflon. "Dwi'n gallu cydymdeimlo â'r bachan. Dwi'n deall fel roedd Twm a ffermwyr yr ardal yn gweld y dollborth fel symbol o orthrwm ac felly roedd rhaid ei symud hi o'r neilltu" meddai John. Yn ogystal â chofnodi'r sioe a gynhaliwyd ar Sgwâr Maenclochog nôl yn yr haf mae'r Fideo yn cynnwys cyfweliadau gyda rhai o'r actorion sy'n ddisgynyddion i wrthryfelwyr y Beca a rhai ohonyn nhw yn llinach Twm Carnabwth ei hun. Gareth Edwards (Ffenestri Cleddau) oedd yn chwarae than Twm Carnabwth yn y sioe ac fe aeth i ysbryd y darn. "Dwi'n cyfadde wên i ddim yn cymryd lot o sylw o hanes yn yr ysgol ond dwi wedi dysgu lot am hanes yr ardal wrth gymryd rhan yn y sioe. Wedd Twm yn dipyn o fachan sdim dowt. Wedd cymryd ei ran yn gwneud i fi deimlo'n browd o fod yn Gymro" meddai. Fe ymosodwyd ar dollborth Efailwen deirgwaith nes gwneud yn siwr na fyddai'n cael ei chodi. Roedd yn wybyddus ledled yr ardal mai Twm Carnabwth oedd arweinydd y fintai ond ni chafodd ei fradychu i'r awdurdodau er bod yna arian yn cael ei gynnig am wybodaeth fyddai'n arwain at erlyn y gwrthryfelwyr. Yn ôl Cerwyn Davies, (Daniel Dre yn y cynhyrchiad) un o ddisgynyddion Twm, tyfu'n arwr gyda threigl y blynyddoedd fu hanes Tomos Rees. "Chafodd e ddim o'i wrthod gan y gymdeithas. Dal eu tafod fyddai pobl ac ychydig yn gyndyn i gydnabod yr hyn roedd e wedi ei wneud. Yn bendant yn ei henaint roedd yna batch iddo ac fe'i ystyrid yn aelod sefydlog o'r gymdeithas erbyn hynny," meddai. Roedd Twm, wrth gwrs, yn ei ieuenctid yn dipyn o glatshwr mewn ffeiriau ac mae yna hanes amdano yn colli ei olwg mewn un llygad yn dilyn sgarmes yn nhafarn y Stambar yng Ngarnwen. Roedd hynny tai blynyddoedd ar ôl helynt yr iet a'i wrthwynebydd bryd hynny oedd Gabriel Evans o Sanclêr. Os yw'r manylion ar dystysgrif ei farwolaeth yn gywir sef iddo farw yn 1876 yn 72 oed yna mae'n 200 mlwyddiant ei eni eleni. Cynhyrchwyd y fideo 'Carnabwth - Sbadda fe Twm' gan Glychau Clochog ac mae ar werth mewn nifer o siopau lleol.
|