91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Lloffwr
Y criw Cawl, Cân, Clonc a Chymdeithasu
Gorffennaf / Awst 2007
Daeth blwyddyn lwyddiannus arall i ben gyda thaith draddodiadol ddirgel yr Hoelion Wyth, Cangen `Wes, Wes'.

Dangosodd Philip Mathews, Sŵn y Don, y Felin yn Llanrhian nawr, bod y gwaith ar yr hen felin wedi dod i ben, a rhyfedd oedd gweld yr hen adeilad. Er mai preswylfa yw yn awr, uno yr hen a newydd (gyda rhannau gweithredol yr hen felin tu ôl i wydr) gyda chanlyniad graenus a chartrefol. Cafwyd hanes yr adeilad dros y canrifoedd pan oedd y felin yn hanfodol i bobl yr ardal.

Yna yn ôl â ni i 'Dafarn y Llong`, Trefin, i gael pryd o fwyd. Cyn dechrau canu, cyflwynwyd llun i Anthony Thomas, y cadeirydd, yn ei ddangos gyda thlws a chwpan Eisteddfod yr Hoelion 2006. Gyda'r ddeddf newydd yn dod mewn ym mis Ebrill cafwyd eiliad hanesyddol yng nghyfarfod mis Mawrth pryd y taniodd Byron Reynolds, Don Evans a Dai Salmon eu sigaret olaf yng nghyfarfod yr Hoelion, ac i nodi'r achlysur arbennig cyflwynwyd copi o addasiad o gerdd 'Melin Trefin' am y digwyddiad unigryw i'r tri.

Cwrdd yn `Y Llong' mae'r Hoelion ar y nos Fercher ddiwethaf yn y mis. Mae yno Gymry Gymraeg a dysgwyr a cheir croeso cynnes i bawb. Dechreuodd y flwyddyn ym mis Medi gyda Byron Reynolds yn dangos lluniau o Drefin ac adrodd hanes y pentref. Geraint Jones oedd siaradwr gwadd mis Hydref ac roedd Geraint a'r teulu wedi cymryd rhan mewn rhaglen deledu ar ail gylchu. Cawsom hanes y rhaglen a gofyn cwestiynau ynglÅ·n ag effaith y rhaglen ar y teulu.

Gillian Price oedd yn gyfrifol am gyfarfod mis Tachwedd. Athrawes yn Ysgol Gynradd Croesgoch yw Gillian. Teithiodd i Lesthoto a bu'n athrawes mewn ysgol fach wledig. Roedd yr adnoddau yn brin iawn i gymharu â Sir Benfro, ond roedd y plant yn hapus ac yn awyddus i ddysgu. Roeddent yn cerdded milltiroedd i'r ysgol, a dim sôn am geir mawr pedair olwyn! Braf yw ein byd ni yma!

Testun Brian Jones yng nghyfarfod mis Ionawr oedd ei `filltir sgwâr'. Soniodd Brian am ei blentyndod ac am adeiladau, crefydd, digwyddiadau a chymeriadau ei fro a'r dylanwadau a fu arno. Diddymwyd cyfarfod mis Mawrth i ymarfer a pharatoi am Eisteddfod yr Hoelion. Er i gangen `Wes Wes' ennill y darian a'r tlws y llynedd tro Beca oedd hi eleni i fynd i'r brig. Enillodd Byron Reynolds ar y Stori Fer, a chafwyd ail yn y gân actol ('Ceilog Beti'). Ail oedd Geraint Evans yng nghystadleuaeth y frawddeg, a daeth y côr a'r sgets yn drydydd. Dywedodd un wag ar y bws wrth fynd adre nad oedd y beirniaid ddim yn deall ei waith!!

Martin Roberts oedd siaradwr mis Mawrth yn olrhain hanes plwyf Llanrhian ac yn dangos mapiau a dogfennau yn y degawd 1840. Mae Geraint Evans wedi ei benodi yn gadeirydd am y flwyddyn fydd yn dechrau mis Medi. Croeso i bawb.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý