91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Lloffwr
Donna Morris Donna'n dysgu dawnsio
Ionawr 2008
Mae'r flwyddyn newydd yn golygu wyneb newydd ar gyfer dawns yng nghymunedau ac ysgolion Sir Benfro.

Yn cymryd yr awenau oddi with Cate Lovett (Croes-goch) y mae Donna Morris, Swyddog Datblygu newydd Dawns Dyfed yn y sir.

Wedi'i geni a'i magu yn Llambed, Ceredigion, mae Donna'n rhugl ddwyieithog. Yn dilyn tair blynedd yn astudio Dawns yn y Gymuned ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl, ac yna blwyddyn ôl-radd yng Ngholeg Cerdd a Drama Frenhinol Cymru, Caerdydd mae Donna wedi gweithio gyda rhai o brif gwmnïau perfformiadol Cymru gan gynnwys No Fit State Circus a Chwmni Dawns Earthfall. Mae hi hefyd wedi datblygu portffolio cyfoethog o waith fel hyfforddwraig ddawns a choreograffydd mewn perthynas â phrosiectau celf yng Nghymru a dros Glawdd Offa.

Medd Donna: "Mae cael y cyfle i ymgymryd â'r gwaith pwysig hwn yn Sir Benfro yn gyffrous iawn i mi. Ers ro'n i'n ferch ysgol dwi wedi dawnsio â chwmnïau ieuenctid sirol a rhanbarthol Dawns Dyfed. Mi fydd mynd i'r afael â'r cwricwlwm eang o waith a ddatblygwyd gan Cate Lovett mewn lleoedd fel Treletert ac Aberdaugleddau yn dipyn o sialens, ond mae'n her dwi'n edrych ymlaen ati yn fawr iawn.'

Dywed Margaret Ames, Cyfarwyddwr Artistig Dawns Dyfed: "Donna yw'r union berson ar gyfer ymateb i anghenion a photensial ysgolion a chymunedau Sir Benfro ar yr adeg hon. Nid yn unig y mae hi'n ifanc ei chorff a'i hysbryd, mae hi hefyd yn llawn syniadau creadigol wedi'u gwreiddio yn ei dealltwriaeth gynhenid o ystyr y geiriau 'cymuned' a 'chymdeithas'. Heb os, mi fydd yn ased mawr i ddatblygiad dawns yn gyfrwng ystyrlon er budd cynaliadwyaeth ein cymunedau.'

Ychwanegodd cadeirydd y cwmni, Euros Lewis: 'Mae cael rhywun o allu, profiad a brwdfrydedd Donna yn gweithio yn Sir Benfro yn ysbrydoliaeth i bawb. Mae ei hapwyntiad yn hwb mawr i hyder ein cymunedau.'


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý