Cafodd Ogam ei lansio yn swyddogol ar Ddydd Gwyl Dewi, yng Nghanolfan Groeso Tyddewi - ardal sy'n gyfoethog o ran y diwylliant Cymraeg a'r dreftadaeth werdd. Y bwriad yw creu cyfres o weithgareddau yn bennaf yng ngogledd a gorllewin y sir er mwyn dangos y cysylltiadau rhwng y ddwy etifeddiaeth - yr iaith a'r amgylchedd - gall ysgogi cefnogwyr y naill i werthfawrogi'r llall.
Torri tir newydd "Hyd y gwyddon ni, mae Ogam yn torri tir cwbl newydd," meddai Geraint Jones, cadeirydd pwyllgor llywio'r cynllun a'r gwr a gafodd y syniad tua blwyddyn yn ôl. "Mae'n gyfle gwych i adeiladu ar ofal pobl am eu treftadaeth yn ei holl amrywiaeth" meddai.
Y Prifardd Jâms Niclas a lansiodd Ogam a datgelu logo'r cynllun sy'n defnyddio rhai o lythrennau'r iaith Ogam a phatrymau Celtaidd.
Menter Iaith Sir Benfro fydd yn gweinyddu Ogam ac mae disgwyl y byddan nhw'n penodi aelod ychwanegol o staff i ddelio â'r gwaith.
"Mae yna bobl sy'n ymboeni llawer am yr iaith ond yn cymryd byd natur a'r amgylchedd yn ganiataol ac mae yna bobl sy'n ymgyrchu tros faterion gwyrdd sydd heb ddangos llawer o ddiddordeb yn yr iaith - r'yn ni'n credu fod gan y ddwy garfan lawer i'w ddysgu i'w gilydd," meddai Tecwyn Ifan, swyddog datblygu'r Fenter Iaith.
Mae rhaglen fusnes dair blynedd eisoes wedi ei chreu, gyda chyfres o arddangosfeydd a gweithgareddau creadigol ond un o'r amcanion cyntaf yw creu partneriaeth o fudiadau allweddol i lywio'r gwaith. Bydd y rheiny'n cynnwys ysgolion a mudiadau ieuenctid, cymdeithasau diwylliannol, grwpiau cadwraeth a'r byd amaeth.
Creu arddangosfa drawiadol Y gweithgaredd mawr cyntaf fydd creu arddangosfa drawiadol o'r Pasg hyd at ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ardal ym mis Awst. Fe fydd honno'n defnyddio celf, llenyddiaeth a chyfryngau newydd ac yn rhoi cyfle i bob math o weithgarwch creadigol, gan dyfu o wythnos i wythnos.
Mae'r cynllun yn cael ei gynnal gyda chymorth grant o Gronfa Ddatblygu Amgylcheddol y Cynulliad Cenedlaethol sy'n cael ei gweinyddu gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru hefyd yn cefnogi'r fenter.
Mae'r pwyllgor llywio wrthi'n creu partneriaeth o gyrff a chymdeithasau, gan ganolbwyntio'n arbennig ar bobl ifanc ac ar fudiadau diwylliannol, amaethyddol ac amgylcheddol.
Dau brif amcan sydd gan y cynllun: * Cynyddu dealltwriaeth o faterion amgylcheddol ymysg siaradwyr Cymraeg Sir Benfro. * Cynyddu dealltwriaeth o'r dreftadaeth ddiwylliannol Gymraeg ymysg grwpiau amgylcheddol Sir Benfro. Bydd etifeddiaeth amaethyddol y sir yn llinyn cyswllt rhwng y ddau. Bydd yr arddangosfa yn y Ganolfan Groeso yn cynnwys lluniau o bob math wedi'u hysbrydoli gan amgylchedd Sir Benfro, ynghyd â dyfyniadau o farddoniaeth a rhyddiaith sy'n cynrychioli cyfoeth llenyddol yr ardal. Mae bwriad hefyd i gael fideo a phob math o weithdai a pherfformiadau creadigol a fydd yn ychwanegu at yr arddangosfa. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Nhyddewi, bydd y Ganolfan Groeso yn ganolbwynt i gyfres o weithgareddau uchelgeisiol - un syniad yw dramateiddio chwedlau'r Mabinogi sydd â chysylltiad cryf â Sir Benfro ac yn cyfleu llawer o hudoliaeth byd natur trwy lun.
|