Meddyliwch am yr adeiladau mwyaf eu maint yn eich tref neu bentre' chi, a'r tebyg yw y dewch i'r casgliad mai un o'r capeli yw. Meddyliwch yn ôl ganrif neu ddwy am yr ymdrech - corfforol ac ariannol o godi'r fath adeiladau - yr ymrwymiad, y cysegriad a'r ffydd y byddai angen i wneud hyn. Wrth gwrs, wrth edrych yn ôl, byddwn yn sylweddoli fod aelodaeth rhan fwyaf o'n capeli rhyw ganrif yn ôl mewn niferoedd o gannoedd os na miloedd - ac yna, byddai'r incwm ar gael i godi'r fath lefydd. Roedd ein capeli yn lefydd, nid dim ond i addoli, ond hefyd yn ganolfannau cymdeithasol. Gall ein cyndeidiau fod yn fras am eu bod wedi gadael y fath etifeddiaeth i ni. Y tristwch mawr yw fod ein cymdeithasau heddiw ddim yn gwerthfawrogi'r adnoddau y gadawsont i ni.
Wrth edrych o gwmpas Tudrath, ond am Parrog House, lawr ar bwys y traeth, does dim dwy mai'r ddau gapel - sef Bethlehem gyda'r Bedyddwyr, ac Ebeneser gyda'r Annibynwyr yw'r ddau adeilad mwyaf yn y dre', a hyn efallai yn adlewyrchiad o nerth y ddau fudiad yma ryw ganrif neu ddwy yn ôl.
Beth yw'r cefndir? Rhaid cofio fod addoli tu allan i'r eglwys sefydledig, h.y. yr Eglwys yn Lloegr ac yna'r Eglwys yng Nghymru, yn rhywbeth anghyfreithlon gyda chosbau enbyd petasech yn cael eich dal. Serch hyn, mae rhan fwyaf o'n henwadau anghydffurfiol â'u gwreiddiau trwy addoli mewn tai preifat. Credir fod y Bedyddwyr wedi dechrau addoli yn y fath dy yn Stryd y Bont Uchaf yn Nhudrath ym 1675. Fe ddaeth pethau llawer iawn yn hawddach i'r anghydffurfwyr gyda'r ddeddf newydd (The Act of Tolerance 1689), ac erbyn 1760, roedd gan y Bedyddwyr fan cyfarfod swyddogol.
Cwartar canrif yn ddiweddarach, bu rhyw 87 o aelodau yn rhan o'r mudiad yn Nhudrath a nhw a fu'n gyfrifol am adeiladu Capel y Bont Bethlehem fel yr adnabuwyd bryd hynny ym 1789 - adeilad hardd gyda lle i 600 o bobl i eistedd ynddi. Y gweinidog cyntaf oedd y Parch John Stephens, ac yno y buodd am bum mlynedd cyn iddo ymfudo i'r Unol Daleithiau. Estynwyd y Capel ym 1817 amser fu'r Parch David Jones yn weinidog, ac ailadeiladwyd ym 1885 o dan arweiniad y Parch John Stephens.
Tebyg oedd dechreuad yr Annibynwyr yn Nhudrath gydag addoliad mewn tai preifat. Roedd man cyfarfod yn nhy Thomas Beynon tua 1715. Adeiladwyd Capel Brynberian ym 1690 fel cangen o'r mudiad yn Llechryd. Erbyn 1741, apwyntiwyd David Lloyd fel gweinidog i'r capel ac yna datblygwyd Brynberian fel mam eglwys i'r mudiad yng Ngogledd Penfro. Yn fuan ar ôl yr apwyntiad hwn, codwyd yr adeilad a adnabuwyd fel Capel - ar safle a ddefnyddiwyd fel festri yn ddiweddarach - lawr yn Stryd y Santes Fair Isaf (Tudrath). Fel llawer i gapel arall, e.e. Gideon, Cana, Felindre, roeddent yn ganghennau o'r fam eglwys. Ym 1822, penderfynwyd torri cysylltiad â Brynberian, ac apwyntiwyd Thomas Jones fel gweinidog. Erbyn 1844, roedd Capel L llawer rhy fach i'r gynulleidfa gynyddol ac yna, adeiladwyd y ty hardd, sef Capel Ebeneser, ar dir a roddwyd yn anrheg gan Mr William Lloyd, Penfeidr - adeilad gyda lle ynddo i saith cant a hanner o fobl.
Yn ei dro, roedd gan Capel L / Ebeneser fannau cyfarfod eraill. Cynhaliwyd Ysgolion Sul a chyfarfodydd ym Mwlch y Fedwen, ger Fferm Blaenmeini o 1839 hyd at 1844, ac eto yng Nghapel y Mynydd, ger Parc y Marriage, hyd at ddechrau'r ail ryfel byd.
Yn ein capeli anghydffurfiol yng Nghymru, y blaenoriaid sy'n ffurfio'r pwyllgor rheoli mewn unrhyw gapel. Rhyw ganrif yn ôl, roedd yn fraint rhyfeddol i gael eich ethol yn flaenor, neu'n ddeacon yn eich capel, ac erbyn heddiw gydag aelodaeth ein capeli yn lleihau'n flynyddol, ychydig sydd yn barod i dderbyn y cyfrifoldeb am gadw a chynnal yr adeiladau, cydymffurfio gyda'r gyfraith ac anghenion y Pwyllgorau Iechyd a Diogelwch.
Yn y llun ar y chwith, gweler blaenoriaid Capel Ebeneser ym 1935. O'r chwith i'r dde yn y rhes ôl y Meistri Jack Collings (pobydd), Iorwerth Matthias (Garej Ganol), Caleb Morris (arwerthwr melysion), Willie Owens (Masiwn), Tom Erwyn Matthias (dilledydd), ac yn y rhes flaen, J.M. Evans (arwerthwr dillad dynion - Manchester House), E.R. Goronwy Y Parch Ken Williams (Gweinidog), Tom Williams (Maesgynon) a David Evans (Ffarmwr).