Ar ddydd Gwener, Mai 2il 2008 fe ffrwydrodd llosgfynydd Chaitan yn Chile gan chwydu fflamau a mwg filltiroedd i'r awyr. Cariwyd y llwch a'r lludw hynny dros y ffìn i'r Ariannin gan effeithio'n ddrwg ar drigolion Godre'r Andes lle mae 'na gymdeithas Gymraeg gref. Roedd hwn y tro cynta' i Chaitan ffrwydro ers mwy na 9,000 o flynyddoedd.
Am gyfnod daeth bywyd bob dydd i stop bron gyda siopau a swyddfeydd ar gau a dim trafnidiaeth ychwaith am fod y ffyrdd i gyd ar gau. Roedd yr awdurdodau yn apelio ar bawb i beidio â mynd allan o gwbl os oedd asthma neu broblemau anadlu gyda nhw ac roedd yn rhaid i bobl wisgo mygydau rhag anadlu'r llwch a oedd yn disgyn fel eira o'r awyr am wythnosau. Roedd yr ysgolion i gyd ar gau am gyfnod gan gynnwys yr ysgolion Cymraeg yn Esquel a Threvelin.
Pan ddigwyddodd hyn roedd trafodaethau eisoes ar y gweill rhwng Menter laith Patagonia ac Urdd Gobaith Cymru ynglyn a'r syniad o bobl ifanc o'r ardal yn derbyn hyfforddiant a phrofiad gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Ond oherwydd yr effaith anffodus ar ddarpariaeth gwersi a gweithgareddau Cymraeg yma yn ardal yr Andes yn sgil Chaitan roedd hi'n bellach yn bwysig i geisio gweithredu'r prosiect yn gynt. Aethpwyd ati i roi'r trefniadau ymarferol yn eu lle ar frys a chyda cynnig pendant gan yr Urdd yr unig her oedd dod o hyd i gost y tocynnau awyren.
Pryd hynny glywsom gan Ceri Jones o Hwlfordd, Sir Benfro. Bob bIwyddyn bydd Ceri yn dysgu fel athro ar gwrs Cymraeg yn Llundain ac yn ceisio gwneud rhywbeth i godi arian at achosion Cymraeg yn ystod yr amser hynny. Eleni cystadlodd mewn triathlon a Ilwyddodd i godi dros £200. Yn sgil darllen amdanon ni yn y wasg penderfynodd ein dewis ni i dderbyn y nawdd y tro hwn. Wedi ein hysbrydoli gan y rhodd hael hon wnaeth Ysgol Gymraeg yr Andes a Menter laith Patagonia apêl yn y wasg ac ar radio a theledu Cymru.
Fe wnaeth ymateb hael a thwymgalon pobl Cymru ein syfrdanu. Daeth llif o gyfraniadau ac, erbyn hyn rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod digon o arian wedi cyrraedd i ni ddanfon dau berson eleni. Mae un newydd gychwyn gydag un arall i ddilyn yn fuan. Yr un cyntaf i gyrraedd bydd Laura NWitschek (23 oed) o Drevelin. Fe fydd hi'n aros am 6 mis yng Nghanolfan Preswyl Awyr Agored yr Urdd yn Llangrannog. Mae Laura wedi bod yn mynychu gwersi Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes ers dwy flynedd bellach ac fe fydd yn parhau i ddysgu ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion yng Ngheredigion yn ystod ei arhosiad.
"Rwy'n edrych ymlaen yn arw at y profiad o gael gweld Cymru, dysgu mwy am ei diwylliant ac wrth gwrs y cyfle i ddefnyddio a gwella fy Nghymraeg." meddai Laura.
Ar ran Ysgol Gymraeg yr Andes a Menter Patagonia hoffwn ddiolch o galon i bawb yng Nghymru am wneud y profiad hwn yn bosibl iddi.
|