91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Lloffwr
y Maer, y Faeres, Mr Geoff Badland, Llywyddy Ford Gron a Mr Martin Hall Carnifal yn codi arian
Medi 2008
Mae Carnifal Abergwaun a'r Cylch gyda'i fflotiau amrywiol wedi llwyddo i godi arian i elusennau lleol.

Roedd y torfeydd yn well nag erioed a nifer y fflotiau'n fwy hefyd yng Ngharnifal Abergwaun a drefnwyd gan y Ford Gron, er gwaetha'r tywydd.

Wedi'r agoriad swyddogol gan y Maer, Mr David Williams, fe aethpwyd ati i feirniadu'r ymgeiswyr. Tom Latter a Buzz Knap-Fisher aeth a hi gyda'u harddangosfa ar y cyd yn dwyn y teitl 'Atebion Byd-eang'. Ar y fflôt roedd hen dwmp olew llygredig, gyda char nodedig Buzz yn dilyn.

Mae yna Dalent ym Mhanteg, ddaeth yn ail, a FADDS yn drydydd. Y Pendre oedd enillydd y dafarn orau a Tir a Môr y siop orau.

Bu cystadlu brwd yn adran y gwisgoedd ffansi. 0 dan 10 oed y Babell Gwrw ddaeth yn gyntaf, Alice in Wonderland, gyda'i chwningen, yn ail, a Brynosaurus yn drydydd. 0 11 oed i 16 oed, yn gyntaf oedd I've been framed', Nancy yn ail a 'Bull's Eye' yn drydydd.

Dros 17, daeth yr Artful Dodger yn gyntaf, daeth Nancy'n ail a chafodd y Taflwr Disg trydydd. Yn y grwpiau, daeth Fagin a'i griw yn gyntaf, Yr Olympiau yn ail a Nancy ac Oliver yn drydydd.

Roedd lori fawr Martin Hall wedi'i gwisgo mewn lliwiau Ilachar Apél Arch Noa yn amlwg, a bu ef hefyd yn hael iawn yn caniatau i bobol ddefnyddio ei dreilers i'w haddurno ar gyfer y carnifal.

Dywedodd y cadeirydd, Mr Robin Baker, fod Carnifal Ford Gron Abergwaun a'r Cylch ynghyd â 'Thynnu'r Wagen' wedi codi arian sylweddol i elusennau lleol.

Diolchodd i bawb a gymrodd ran am eu hymdrechion, i'r cyhoedd am ddod, ac i'r sawl a noddodd y prynhawn. Y Skazz oedd yn darparu'r gerddoriaeth, gan ddechrau'n addas iawn gyda 'Jazz in the Park'.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý