91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Lloffwr
Drama'r geni Myfi, Tydi, Efe
Rhagfyr 2003
Wel dyma ni ar ddiwrnod Dolig.

Mae'r hen deledu wedi bod yn swnian ers wythnosau gyda'r hysbysebwyr yn dweud bod yr wyl yn agosáu a bod hi'n bryd i ni roi trefn ar ein siopa, a gwario'n harian gyda'r siop hon neu'r busnes arall. Ac mae cerdded i fewn i siopau yn ddigon i droi dyn bant o'r syniad o Nadolig gyda'u haddurniadau sy'n ymylu ar fod dros ben llestri a'u jingl o fiwsig fel tôn gron.

Wel, wel, medde chi, ody hwn yn casáu'r Nadolig. Nadw, ddim o gwbl. I'r gwrthwyneb, mi 'rydw i wrth fy modd. Wedi'r cyfan, mae lle gyda ni i ddathlu a llawenhau. Mae achos gyda ni i roi anrhegion i'n gilydd, oherwydd 'ry ni'n cofio am y rhodd fwyaf gafodd ein byd ni erioed sef Iesu Grist.

Dangos ein cariad tuag at ein gilydd a wnawn ni wrth gyflwyno rhoddion. A dyna sydd y tu ôl i'r rhodd gawsom ni gan Dduw. Cariad. Dyna drueni na allem ddangos mwy o hwnnw tuag at ein gilydd a thuag at holl drigolion ein byd. Bydd llawer o siarad gwag gan arweinwyr ein byd yn ystod yr wythnosau nesaf hyn. Byddant yn cysylltu neges dyfodiad Iesu i'r byd gyda geiriau megis heddwch a thangnefedd. Ond ni welwn unrhyw arwyddion o'r pethau hynny yn eu gweithredoedd.

Wrth i ni ddathlu dros yr wythnosau nesaf hyn, yng nghanol y cyfan gadewch i ni gofio ystyr ac arwyddocâd dyfodiad Iesu i'r byd, ac wrth rhyfeddu eto at gariad Duw, boed i ni ymroi i wneud y pethau mae ef am i ni eu cyflawni.

Gweddi'r Nadolig
Daethost Arglwydd i'n plith,yn dy fab Iesu Grist, fe welsom dy gariad,
y cariad,
fu'n cyffwrdd â bywydau dynion
fu'n codi trueiniaid ar eu traed
fu'n newid y byd.
Tyrd eto, Arglwydd, y Nadolig hwn,
agor ein llygaid er mwyn i ni weld Iesu
yng nghanol y miri a'r hwyl,
a boed i'w gariad ef,
ein cyffwrdd fel y gallwn brofi'r wefr,
ein symbylu i helpu eraill
a'n hysbrydoli i newid y byd. Amen


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý