"Shwt ddechreuodd y busnes te?"
"Pa fusnes ?"
"Y busnes casglu llun-gerdiau post na."Fe ymwelais â chyfarfod blynyddol y Gymdeithas Ffilatelig Gymraeg tua mis Mai 1986, ac ar ôl blino ar chwilota am stampiau gyda nifer o fasnachwyr, dechreuais chwilio yn y bocsus llun-gerdiau post. Ar ôl byr amser cefais hyd i'r garden a ddangosir uchod storws wrth ochr yr afon, erbyn hyn wedi ei throi i fod yn Glwb Cychod Trefdraeth.
Penderfynais fuddsoddi pris y garden, 50c, a hon felly oedd y garden gyntaf yn fy nghasgliad. Gyda rhagor o chwilota cefais hyd i rhyw ddwy neu dair arall, ac yr oeddwn yn hapus iawn gyda'r hyn yr oeddwn wedi cael.
'Roedd Mam yn hapusach fyth i weld beth oeddwn wedi prynu, lluniau yn dwyn pob math o atgofion yn ôl iddi.
"Wyddost ti' meddai mai dy Dadcu oedd bia'r storws honno ar un adeg ac hefyd un arall tu ôl iddi, sydd wedi ei chwalu erbyn hyn."
Ni wyddwn i ddim byd o'r fath.
"Ac wyt ti'n gwybod pwy yw y dynion yn y cychod yma ?" Ac fe aeth ymlaen i enwi rheini oedd yn rhedeg y fferi yn groes yr afon. Fe siaradodd am amser am y llun yma a'r cardiau eraill, pethau bach diddorol a gwerthfawr, ac ar ôl rhyw awr o drafodaeth, es i nôl i'r ty, ac ysgrifennu lawr pob peth yr oeddwn yn galled cofio am yr hyn yr oedd Mam wedi sôn amdano, ac os oeddwn wedi anghofio rhywbeth, mater hawdd oedd mynd yn ôl ac ail ofyn.
Wrth ail ddarllen rhyw ddeg mlynedd yn ddiweddarach, yr oeddwn wedi anghofio tipyn o'r hyn oeddwn wedi dysgu, ond nid oedd un gwahaniaeth oherwydd fy mod i wedi ei ysgrifennu i lawr, ac y byddwn yn erfyn ar pob un ohonoch i ysgrifennu rhywbeth tu ôl i bob llun sydd gennych enwau'r bobl neu'r achlysur aa.
Fe gawsom rhyw fis o dywydd bendigedig cyn y Pasg eleni, a pan fydd hyn yn digwydd, bydd fy meddwl am gweithgareddau, yn troi at y traeth. Cofiaf fel crwt bach, amser byddai mam yn mynd â ni fel plant draw i Traeth Mawr ar ddydd o haf. Roedd rhaid tynnu'n esgidiau i ffwrdd ar ôl cyrraedd y traeth, a cherdded ar y cerrig caled, ac yna i fyny'r planc er mwyn mynd i mewn i'r cwch heb wlychu'n traed. Yna byddai'r perchennog yn tynnu'r planc er mwyn mynd i fewn i'r cwch cyn ein rhwyfo ni ar draws yr afon. Sylwais fod mam yn talu rhywfaint am y gymwynas, ond dim ond yn gymharol ddiweddar cefais wybod y pris, - sef ceiniog os oedd y llanw allan, a dwy geiniog os oedd y llanw'n llawn.
Bu Hubert Mendws a Vince Morris yn siario'r cwch am flynyddoedd - Vince oedd biai'r cwch, ond Hubert oedd yn ei rhwyfo- ac felly, 'roedd y ddau yn siario'r elw. 'Roedd Harry Wylde a Thomas John Selby Davies hefyd yn cario pobl yn groes yr afon, o waelod y Stryd Hir draw i Riverslea. Y bobl oedd yn defnyddio'r wasanaeth hon oedd rheini a oedd am chwarae golff. Byddai Davies yn gwneud hyn ar ôl gorffen y rownd laeth yn y bore.
Nid dim ond y dynion oedd yn rhedeg y fferis yma chwaith. Bu Miss Daisy Wylde (merch Harry) wrthi am flynyddoedd ac ym mhob tywydd. Cyn codi'r bont tua 1892, Mali'r cwch fu'n rhwyfo trigolion y Morfa ar draws yr afon. 'Roedd y fferi hon rhyw ganllanth nes lawr na'r bont bresennol. Ar ôl i Mari ymddeol, fe ddaeth Elizabeth a Hannah Davies (Mam a'i merch) i weithio'r fferi nes i'r bont newydd cael ei chodi a'i hagor.
Gyda llwythi trymion, wrth gwrs byddai rhaid cario rhain gyda cheffylau a ceirt. Mae mapiau yr Ordnance Survey 1888, yn dangos fod rhyd wedi cael ei ffurfio yn agos i lleoliad y bont bresennol ond ni fyddai'n bosib defnyddio hyn oni bai fod y llanw allan.