Yn ei hugeiniau, cafodd drawsblaniad aren oddi wrth ei thad, a dyna sut y daeth yn gennad dros Sefydliad yr Aren, Cymru.
Hi oedd yr un a drefnodd ymdrech Abergwaun, yn un o 33 ar draws Cymru, yn yr ymgyrch 'Cerdded dros Fywyd' i godi arian tuag at yr elusen. Hyd yn hyn, mae dros £4000 wedi dod i'r coffrau, ac y mae Allison a'i mam yn falch iawn o'r gefnogaeth gan bobl yr ardal, o bensiynwyr i fabanod mewn pram, a gerddodd ar y Sul cyntaf yn Ebrill. Ar hyn o bryd mae Allison yn astudio meddygaeth yng Nghaerdydd. Mae'n gobeithio bydd ei phrofiad hi yn sbardun i bobl eraill ystyried rhoi aren neu afu neu organ arall, a rhoi eu henwau ar restr y rhai sy'n fodlon cynnig siawns
am fywyd i eraill.
Ceir portread o Allison John yn rhifyn Mai 2008 o'r Llien Gwyn.
|