Bydd y Parchg Alwyn Daniels, gweinidog Cylch Carn Ingli a Llywydd Adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru ac Irfon James, un o ddiaconiaid Tabor, Dinas yn gwneud taith gerdded noddedig yn y dyfodol agos.
Y Daith? - Llwybr arfordir sir Benfro. 186 o filltiroedd o Lanrhath (Amroth) i Landudoch.
Pryd? - Rhwng Ebrill 5ed a Mai 17eg. Byddant yn cerdded ar 23 diwrnod yn ystod y cyfnod hwn.
Pam? - Er mwyn codi arian at wahanol achosion ac elusennau.
Yr elusennau? - Bwriedir rhannu'r arian a godir rhwng elusen leol, genedlaethol a thramor.
Bydd swm penodol yn cael ei chlustnodi at waith Clwb y Gateway yn Abergwaun. Bydd gweddill yr arian yn cael ei rannu rhwng Yr Ambiwlans Awyr yng Nghymru a phrosiect Cymorth Cristnogol yn Ethiopia. Mae'r prosiect hwn sy'n cymryd lle trwy gymorth partneriaid Cymorth Cristnogol - "Water Action" yn bwriadu dod â dŵr glân i 55,000 o bobl. Byddai codi £5,000 yn galluogi poblogaeth o 750 i gael dŵr glân. Ond yr hyn sy'n cynyddu gwerth yr arian yw bod y Comisiwn Ewropeaidd yn rhoi £3 am bob £1 a gyfrannwn ni. Felly gallai cyfraniad o £5,000 fod yn werth £20,000.
Yr her? - Helpwch Alwyn ac Irfon i godi'r arian. Beth am i'ch eglwys /cymdeithas / clwb dderbyn ffurflen noddi er mwyn codi arian at yr achosion da hyn? Os byddech yn barod i wneud, cysylltwch â Tabor Villa, Dinas, Trefdraeth, Sir Benfro. SA42 OXQ neu ffoniwch 01348 811430. Beth am gerdded?
Os hoffech uno gyda nhw ar y daith am ddiwrnod bydd croeso i chi wneud hynny. Cysylltwch ynglyn â'r trefniadau. Byddant yn croesawu cwmni bach ar nifer o'r diwrnodau, ond bydd tri dydd Sadwrn pan fydd croeso i grwpiau mwy o faint i uno ar y daith.
Y Llwybr - Mae'r Llwybr yn cynnwys golygfeydd godidog bob cam o'r daith. Does ryfedd bod un person lleol yn dweud wrth groesawu pobl i'r fro, - Croeso i Baradwys. Ond cofiwch bod y Llwybr yn anodd hefyd. Nid cerdded tir gwastad yw. Mae llawer o waith esgyn a disgyn ar y rhan fwyaf ohono, felly ystyriwch o ddifrif cyn mentro i gerdded.
Y Nod - Dangos ein bod fel Cristnogion yn barod i wrando ar orchymyn y Meistr i gynorthwyo unrhyw un sydd mewn angen.
Codi gymaint o arian ag sy'n bosib i helpu'r elusennau o nodwyd. Dangos cariad Duw at waith yn y byd trwy ein gweithredoedd. 'A boed i eraill trwof fi
adnabod cariad Duw.'
|