Trawsnewidiodd Geoff Severn a Ioan Evans y mynediad i'r llwybrau yn Llannerch, gan ailosod ffensys a chodi dwy glwyd bren. Cyflenwyd yr holl bren gan Ganolfan Coetir y Parc Cenedlaethol gerllaw yng Nghilrhedyn yng Nghwm Gwaun ac fe saernïwyd y clwydi hefyd yng Nghilrhedyn. Rhoddwyd lle amlwg i garreg ddefnyddiwyd unwaith fel cilbost. Meddai Geoff: "Ry'n ni'n ymwneud â nifer o brosiectau cynnal a chadw ym misoedd y gaeaf a dyma un o'r rhai mwyaf diddorol yr aethpwyd i'r afael ag ef yn ddiweddar. Roedd hi'n dipyn o sialens llwyddo i roi'r pyst yn eu lle'n llwyddiannus am fod y tir yn greigog iawn." Ychwanegodd Ioan: "Caiff cerddwyr bellach fynediad hawdd i'r llwybrau troed o Llannerch ac mae'r ardal yn ddiogel i anifeiliaid. Mae'r clwydi rydym wedi eu gosod yn yn rhai sy'n cau ar eu pennau eu hunain a bydd hyn o gymorth i'r cerddwyr." Mae coetiroedd hynafol rhannol-naturiol Gwaun yn bwysig iawn o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac maent yn cynnwys sawl Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. (ADdGA). Mae'r mynediad yn Llannerch yn arwain at gyfleoedd cerdded ardderchog dros gryn arwynebedd. Fe ddewch chi o hyd i restr o 90 o deithiau cylchol, gan gynnwys Cwm Gwaun, Cwm y Gwaun ar safwe'r Parc Cenedlaethol www.pembrokeshirecoast.org.uk Mae map y gellir ei lwytho i lawr ar gyfrifiadur cartref yn dangos rhwydwaith o lwybrau yn yr ardal hyfryd yma, ganolir ar safle bicnic Sychbant sy'n agos i gymuned Pontfaen a Llannerch. Mae'r Parc cenedlaethol yn ddiolchgar i'r tirfeddianwyr lleol Mr Bogis Rolffe, Mr Llew Rees a Mr Dilwyn Vaughan am eu cydweithrediad ar y prosiect hwn. Yn y llun, gwelir Geoff Severn (chwith) a Ioan Evans yn edrych ar eu gwaith llaw yn Llannerch yng Nghwm Gwaun.
|