Mewn dyddiau pan glywn gymaint o sôn am gau capeli, cafodd stori wahanol iawn ei hadrodd ar brynhawn Sul, Mawrth 25, 2007. Dyna pryd y daeth tyrfa fawr ynghyd i oedfa ail agor capel Caersalem, Dyfed, sydd wedi ei leoli yn ardal y Cilgwyn ychydig filltiroedd tu fas i Drefdraeth.
Tua chwe mlynedd yn ôl gwnaed penderfyniad unfrydol gan yr aelodau i werthu'r festri ac i fuddsoddi'r arian yn y capel a'i droi yn adeilad aml bwrpas. Nawr, nid dros nos y mae cwblhau gwaith fel hynny, ond o dipyn i beth ac o gam i gam, gwelwyd y freuddwyd yn dechrau troi yn realiti.
Bellach, mae gan Caersalem adeilad sydd yn gyfoes ac yn aml bwrpas, a hynny trwy ymdrechion nifer o adeiladwyr a chrefftwyr sydd yn aelodau yn y capel, ynghyd â llu o wirfoddolwyr a roddodd oriau lawer o'u hamser er mwyn sicrhau bod yr agoriad yn cymeryd lle ar y dyddiad a benodwyd.
I ddweud y gwir, ychydig iawn o amser yn nhermau gwaith adeiladu a gymerwyd i gwblhau y gwaith. Caewyd y capel ar ôl yr oedfa ddiolchgarwch yng nghanol mis Hydref gyda'r bwriad o fod yn barod ar gyfer y Gymanfa Ganu a gynhelir yno ar Sul y Pasg. Diolch i ymroddiad pawb, sicrhawyd bod yr adeilad yn barod bythefnos cyn y disgwyl. Mae'r diolch i bawb am eu gwaith, ond mae'r clod, fel y dywedwyd ar daflen yr oedfa, - 'nid i ni, Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw di dy hun rho ogoniant.'
Yr oedfa Agoriadol
Daeth llawer o bobl o bell ac agos i'r oedfa hon gan gynnwys llawer o iawn o bobl a fagwyd yng Nghaersalem. Dechreuwyd yr oedfa tu fas i'r capel ac fe agorwyd y drws yn swyddogol gan y chwaer May Davies, aelod ail hynaf yr eglwys. Methodd yr aelod hynaf, Elizabeth Lewis fod yno oherwydd anhwylder i gyd agor y drws gyda May.
Wedi i'r dorf fawr gymeryd eu lle yn y capel, rhoddwyd peth o hanes y fenter gan y gweinidog, y Parchg. Alwyn Daniels. Arweiniwyd y darlleniadau gan aelodau Caersalem yn cynrychioli saith gwahanol genhedlaeth cyn i'r Esgob Saunders Davies, (un a fagwyd yn y fro ac a fu'n mynychu nifer o weithgareddau yno yn ei flynyddoedd cynnar) ddwyn cyfarchion. Cafwyd gair ar ran Cymanfa Bedyddwyr Penfro gan y Parchg. D. Carl Williams cyn i'r Parchg. Eirian Wyn Lewis arwain mewn gweddi.
Pregethwyd gan y Parchg. Peter M. Thomas, Ysgrifennydd Undeb Bedyddwyr Cymru ac yntau a gyflwynodd cyfarchion yr Undeb. Bydd casgliad yr oedfa, sef £400 yn cael ei gyflwyno i Glyn Nest, sef cartref henoed y Bedyddwyr yng Nghastell Newydd Emlyn. Wedi'r oedfa, synnwyd pawb at y ffordd ddidrafferth y cafodd y cadeiriau eu troi ac yr ymddangosodd y byrddau er mwyn i bawb mwynhau digonedd o de er mwyn dathlu yr ail agoriad mewn steil. Croeso i unrhyw un alw i mewn i weld y capel. Gellir trefnu gydag unrhyw un o'r aelodau.