Cefais fy ngeni yn gynnar yn ystod yr ail ryfel byd mewn tŷ o'r enw 'Morawel' ar y pen uchaf o Ffordd y Parrog yn Nhrefdraeth. 'Roedd fy ngenedigaeth yn agos iawn pryd y galwodd Doctor Dai (Dr. David Havard) yn y tŷ, a gofyn i'n nhad pryd fyddai'r llanw uchel nesaf. Atebodd fy nhad y byddai rhyw hanner awr wedi tri o'r gloch y bore wedyn. "Dyna fe" meddai Dr. Dai, "Dyna pryd fydd y babi yn cyrraedd". Ac felly y bu. 'Roedd Dr. Dai wedi cyrraedd o flaen Nurse Price (gwraig Jack No Change) ac mae'n debyg fod yr enedigaeth wedi bod yn un rhwydd iawn.Un o'r atgofion cynharaf sydd gen i yw amser 'roedd fy Mam wedi rhoi minnau yn y pram allan yn yr ardd, lawr yn y berllan. Mae'n sicr nad oeddwn mwy na dwy flwydd a hanner oed. Yn sydyn reit, dyma fi yn clywed rhyw sŵn anghyfarwydd, fel injan car yn chwiban. Wrth i'r sŵn gynyddu, edrychais i fyny a gweld y peiriant anferth yma uwch fy mhen. Ni chysylltais y sŵn gyda unrhyw berygl, ac wrth edrych i fyny, 'roedd y "gyrrwr" yn codi ei law arnaf, a minnau yn chwifio fy llaw fach 'nô1 ato.
Nid oes llawer yn coelio'r stori hon, ond meddyliwch am yr argraff y byddai hanner can tunnell o fetel yn gwneud ar fabi, a hwnnw' n hedfan dim mwy na hanner can llath uwch ei ben.
Erbyn hyn 'rwyn sylweddoli yn llawn mai un o'r "Sunderland Flying Boats" oedd hon, o'r math a ddangosir uchod. Bu nifer fawr ohonynt yn hedfan allan o Ddoc Penfro yn ystod y rhyfel lle 'roedd yn hawdd iddynt hedfan a disgyn ar aber y ddwy gleddau. 'Roedd y dŵr yma yn ddelfrydol iddynt gael codi o'r dŵr ac hefyd i lanio oherwydd nid oedd byth yn rhy arw iddynt.
Byddent yn cadw llygad ar yr arfordir i fyny mor bell ag Aberystwyth, a byddent yn amal yn ymweld â Threfdraeth a disgyn ar y bae. Eu prif dyletswyddau fodd bynnag oedd amddiffyn y gosgorddion ("convoys") a fyddai yn cludo bwyd a nwyddau a.a. i'r wlad hon drwy rhan ogleddol Môr yr Iwerydd. I bob pwrpas, 'roeddent yn awyrennau tawel iawn, ac yn galled hedfan yn araf ac yn isel.
'Roedd llongau tanfor yr Almaenwyr ("U-Boats") wedi bod yn fygythiad mawr i longau masnachol y wlad hon yn y rhyfel byd cyntaf. Am y rheswm yma, sefydlwyd dwy orsaf yr RNAS (Royal Naval Air Service) yn Sir Benfro.- un yn Abergwaun yn 1917, a'r llall yn Noc Penfro. Bu'r ddwy orsaf yn defnyddio llongau hedegog (Flying Boats) at ei gwaith, a dyma oedd dechreuad awyrennau a fyddai yn galled codi o a disgyn ar y dŵr. Felly gellir dweud fod Abergwaun wedi chwarae rhan bwysig yn y datblygiad hwn.
Yn dilyn y rhyfel byd cyntaf, fe ddefnyddiwyd nifer o'r awyrennau hyn fel rhan o fywyd masnachol cyffredin. Adnabyddir hwy fel yr "Empire Flying Boats" ac fe ddaeth un o'r enw "Caledonia" (rhan o eiddo "Imperial Airways") i Ddoc Penfro ym 1937. Blwyddyn yn ddiweddarach cyrhaeddodd y "Sunderland" gyntaf,- peiriant anferth, hardd ei golwg gyda phedwar injan, a dyma oedd dechrau cysylltiad agos rhwng y "Sunderland" a Doc Penfro.
Mabwysiadwyd y motto' "Gwylio'r Glannau Gorllewinol" gan Doc Penfro, 'motto' a ddisgrifiodd yn berffaith prif waith yr awyrennau hyn. Gwyddai'r Llywodraeth Brydeinig y byddai'r "Sunderland" yn awyren ddefnyddiol a llwyddiannus iawn, a gwariwyd llawer o arian i'w datblygu hi i bum fersiwn. Dim ond awyren arbrofol oedd y "Mark IV" ac ni hedfanodd hon byth yn Noc Penfro, ond o'r cyrhaeddiad cyntaf defnyddiwyd tipyn o bob "Mark" arall. Y prif geffyl gwaith oedd "Mark III",- awyren a fyddai yn galled cario hyd at dwy fil pwys o fomiau.
Tra 'roedd y datblygiadau yma yn cymryd lle yn Doc Penfro, 'roedd nifer y sefydliadau a fu' n defnyddio'r adnoddau hyn yn cynyddu drwy'r amser. Ar wahân i'r Awyrlu Frenhinol, defnyddiwyd y lle gan ddwy o Awstralia, un o Ganada. yr Americanwyr gyda'u "Catalinas" a'r Ffrancod fel canolfan hyfforddi. Ar wahân i hyn, defnyddiwyd y lle er mwyn cynnal a chadw. Ar un adeg, fe seiliwyd cant o "Sunderlands" yn Noc Penfro. Amcangyfrifwyd fod yr orsaf yn cyflogi dros ddwy fil o fobl ar un adeg, ac yr oedd, o bell ffordd, yr orsaf fwyaf o'i math yn y byd.
Fel arfer, byddai'r "Sunderlands" yn cario naw o griw sef y peilot, ei go- peilot ac efallai trydydd peilot a fyddai'n dysgu'r grefft. Ar ben hyn byddai dau saethwr ("gunners"), llywiwr, gweithredwyr radio a "radar", a phâr o lygaid neu ddau i chwilio am y llongau tanfor.Yn ystod eu gyrfaoedd, credir bod y "Sunderlands" wedi 'lladd', neu cynorthwyo i ladd hyd at 27 o "U-Boats" ynghyd ag achub nifer fawr o forwyr a ddioddefodd 'torpedoes' yr Almaenwyr.
Yn drist fe ddinistriwyd yr holl "Sunderlands" gan yr Awyrlu ym 1957. Ni wnaethpwyd hyn yn Ffrainc nes ei bod yn 1961. Yn y flwyddyn hon, cyflwynwyd yr awyren uchod i'r dref (y diwethaf a welwyd yn Noc Penfro) gan Llynges y Ffrancod. Ar ôl deng mlynedd arall, anrhegwyd hi i Amgueddfa'r Awyrlu Frenhinol ("RAF Museum") yn Hendon.
Hoffem ddiolch o galon i Mr. John Evans o Barc Cenedlaethol Sir Benfro am ei barodrwydd i'm cynorthwyo gyda'r erthygl hon. Bydd ef yn gwario rhan fwyaf o'i amser hamdden yn ymchwilio i fewn i 'hedfan dynol' yn Sir Benfro yn arbennig y "Sunderlands".
Gan: Martin Lewis