91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Lloffwr
Rhai o'r aelodau a fu'n perfformio'r pasiant Yn Ol eu Traed Newyddion Casblaidd
Mehefin 2007
Y newyddion diweddaraf o Gasblaidd a'r cylch.
Capel Pen-y-bont:
Cynhaliwd Cyfarfodydd arbennig ar y Sulgwyn i gychwyn dathliadau dau gan mlynedd yr Achos yn y Capel. Yn yr oedfa foreol pregethwyd gan y Parchg John Stuart Roberts, Caerdydd. Yma ym Mhen-y-bont y dechreuodd ei weinidogaeth yn 1961, a braf oedd cael ei groesawu'n ôl i'r pulpud.

Yna yn y prynhawn perfformiwyd y Pasiant 'Yn Ôl eu Traed', ffrwyth gwaith caled y gweinidog, y Parchg Geoffrey Eynon. Er gwaetha'r tywydd llwyddwyd i gynnal oedfa tu allan i Ffermdy'r Fwrd lle cychwynnodd yr oedfaon cyntaf yn 1797, ac yna yn ôl yn y Capel cafwyd hanes diddorol y cyfnod. Cafwyd datganiadau yn portreadu gweithgareddau'r adrannau dros y blynyddoedd gan gynnwys eitemau hyfryd gan blant a phobl ifanc yr Ysgol Sul. Llwyddwyd hefyd i glywed unwaith eto y Pwnc yn cael ei lafar ganu gan yr oedolion a pherfformiad clodwiw o un o anthemau poblogaidd y cyfnod.

I ddiweddu'r prynhawn gwahoddwyd pawb i'r Festri i fwynhau te 'hen ffasiwn' a baratowyd gan y gwragedd. 'Roedd hwn yn gychwyn ardderchog i'r dathliadau a rhaid canmol gwaith diflino'r Gweinidog yn y paratoadau.

Pwyllgor Gŵyl Casblaidd:
Cafwyd cyfarfod i orffen y trefniadau ar gyfer yr Ŵyl eleni, a fydd yn cychwyn ar Nos Lun, Mehefin 25ain gyda ymweliad â Gerddi Agored Treffgarne Hall. Bydd yna wahanol ddigwyddiadau bob nos wedyn lan i nos Sul, Gorffennaf 1af, gyda Gymanfa Ganu yn y Capel, a Meinir Richards, Llanddarog yn arwain.

Ysgol Casblaidd:
Cafodd nifer o blant yr Ysgol lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Yn y gystadleuaeth gwnio a gwau cafodd Elin Phillips, Bl. 2, y 3ydd wobr, a daeth hefyd yn 3ydd am ysgrifennu stori. Yn y gystadleuaeth Pypedau Bl. 3 a 4 daeth Grŵp Patrick yn 3ydd. Llongyfarchiadau mawr i'r plant.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý