Ar ddydd Sadwrn, 3 Mai, y tywydd yn sych a heulog, daeth tyrfa fawr ynghyd ar Sgwâr Wdig i weld plac arbennig yn cael ei ddadorchuddio'n swyddogol - plac er mwyn coffáu Cwmni'r Rheilffordd, Wdig, gynt. Syniad cyn weithwyr y rheilffordd yn Wdig oedd hyn, pawb yn teimlo bod angen rhywbeth yn Wdig i goffáu'r rheilffordd.
Aeth y pwyllgor ati yn frwd iawn, i edrych am y posibilrwydd o wneud rhywbeth pendant - ond beth? Nid oedd ganddynt arian, felly y peth cyntaf oedd gofyn am noddwyr ac anrhegion ariannol, ac fe gawson nhw ymateb ardderchog i hyn - digon i chwilio am rywun i wneud plac gyda'r cyfanswm.
Kevin Shales gafodd ei apwyntio i wneud y plac yma allan o efydd, a'r cam nesaf oedd trefnu ble yn Wdig i'w roi. Wedyn cawsant ganiatad i roi'r plac yn y man lle roedd y baromedr am flynyddoedd lawer - ger sgwâr Wdig, ac yna dechreuodd y gwaith caled i baratoi'r man.
Trên stem
Ar ôl gorffen y gwaith, y peth nesaf a'r un mwyaf pwysig oedd trefnu diwrnod yr agoriad, a Sadwrn, 3 Mai oedd y dewisiad. Jimmy Duggan a John Davies - y ddau o Abergwaun - gafodd y fraint. Dyma ddau oedd wedi gyrru trenau ar hyd ei bywydau ar reilffordd Wdig ac erbyn hyn y ddau hynaf ar Bwyllgor Henoed y Rheilffordd. Gyda baner y Ddraig Goch yn cuddio'r plac hyd yr agoriad, Jimmy a John wnaeth y gwaith yn swyddogol gyda Jimmy yn adrodd peth hanes o'i amser ar reilffordd Wdig.
Mae'r plac yn werth ei weld, a phleserus iawn oedd gweld cymaint o bobl wedi ymgynnull i fod yn rhan o'r diwrnod arbennig yma. Wedi'r agoriad bu aelodau'r pwyllgor a ffrindiau yn mwynhau pryd o fwyd blasus iawn yng nghlwb chwaraeon, Wdig a threfnwyd raffl fawr yno i orffen y dathliadau. Mae llawer o ddiolch yn ddyledus i Pat Davies, Abergwaun, Ysgrifennydd y Pwyllgor ac Arthur Bean, am eu gwaith trefnu ac i bawb arall ar y pwyllgor a fu'n gefn i'r holl waith.
Cyd-ddigwyddiad rhyfedd a fu'n eisin ar deisen y diwrnod hwnnw oedd bod trên stem, Duke of Gloucester, wedi ei drefnu i gyrraedd harbwr Abergwaun awr ar ôl yr agoriad yma ac roedd yn fraint gweld yr hen trên stem yn cyrraedd i atgoffa pawb am yr hen ddyddiau. Dau beth yn Wdig yn dod ag atgofion melys iawn i lawer.
|