Parhau wnaeth perthynas Santes Dwynwen rhwng Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro a Menter Iaith Sir Benfro eleni eto.
Mae aelodau Clybiau Sir Benfro wedi syrthio mewn cariad â'r Eisteddfod Ddwl sydd bellach yn rhan o galendr y mudiad, gyda dros 70 yn bresennol yn y Dderwen Frenhinol, Abergwaun ar nos Iau, 22 Ionawr. Dod yno i gynnig ar y cystadlaethau doniol a wnaethant ac i gyflwyno'r gwaith cartref a baratowyd ymlaen llaw ar y thema 'Cariad' er mwyn dathlu Santes Dwynwen.
Y beirniad eleni oedd y Bon. Carwyn John, Crymych. Trefnwyd y noson gan Fenter Iaith Sir Benfro gyda'r cystadlaethau yn amrywio o dynnu llun partner delfrydol, hysbyseb yn eisiau Gwraig i Ffermwr o Sir Benfro, brawddeg o'r gair RHAMANT, adrodd i rai dros 100 oed, garglo pennill a chytgan o 'Sosban Fach', dawnsio a pherfformio sgets mewn asiantaeth garu i Gôr Clos Fferm.
Dywedodd trefnydd y Sir, Dill Williams, "Mae'n grêt i weld digwyddiad i'n haelodau sy'n siarad Cymraeg yn cynyddu mewn poblogrwydd yn flynyddol. Mae pawb yn mwynhau eu hunain ac mae'r cystadlaethau'n mynd yn ddwlach bob blwyddyn, a hefyd yr aelodau!"
Ychwanegodd Rhidian Evans o'r Fenter Iaith, "Braf yw gallu cydweithio fel hyn â'r ffermwyr Ifanc a da gweld eu brwdfrydedd a chlywed chwerthin iach yn llanw'r ystafell gydol y noson."
Er mai cael hwyl oedd prif nod y noson, enw Clwb Abergwaun a ychwanegir eleni eto at y darian am y nifer uchaf o bwyntiau a llongyfarchiadau iddynt wrth dderbyn y darian yn ôl am yr ail flwyddyn yn olynol.
Y clybiau eraill oedd yn cymryd rhan oedd Eglwyswrw, Hermon a Llysyfran a gwir dweud y cafwyd perlau gan bob un clwb! Edrychwn ymlaen yn barod at yr un nesaf.
|