Yn ystod gwyliau'r hanner tymor aeth 26 o ddisgyblion y chweched dosbarth ar daith fythgofiadwy i Efrog Newydd. Bu'n dridiau prysur dros ben wrth i ni fanteisio ar bob cyfle i ymweld ag atyniadau nodedig y ddinas
Ar ôl cyrraedd nos Lun aethom yn syth i gael swper, i ferw'r goleuadau gwefreiddiol yn Times Square. Ar ôl noson dda o gwsg roedd pawb yn barod i adael y gwesty yn brydlon am saith o'r gloch y bore i gael brecwast mewn 'diner' Americanaidd traddodiadol gyda chrempog i frecwast!
Ymwelasom â Central Park cyn cyrraedd Ground Zero. Roedd yn brofiad teimladwy iawn i fod yno ac roedd hi'n anodd credu'r hyn sydd wedi digwydd yno ar y fath raddfa o fewn yr 16 erw o dir gwag a safai o'n blaenau. Treuliasom y prynhawn yn edmygu'r casgliad enfawr o waith celf yn Amgueddfa'r Metropolitan. Nos Fawrth aethom i gopa'r Empire State ac roedd yn dipyn o sypreis i'r disgyblion weld y 'limos' yn aros amdanom i'n tywys yn ôl i'r gwesty mewn steil!
Cafwyd diwrnod prysur arall dydd Mercher wrth i ni ymweld â'r Statue of Liberty ac Ellis Island yn y bore cyn mynd i Wall Street ac yna i Amgueddfa'r Americanwyr Brodorol yn y prynhawn. Ar ôl cael swper yn Chinatown aethom i Madison Square Gardens i weld gêm hoci iâ y New York Rangers.
Ar ein diwrnod olaf cerddasom ar hyd 5th Avenue i weld y siopau drud enwog a chael cyfle i siopa yn Macey's ac Union Square yn y prynhawn. Roedd pawb dipyn yn fwy llwythog yn mynd adref, yn ôl yr holl fagiau o fargeinion gasglasom rhyngom.
Hedfanasom yn ôl dros nos Iau a chyrraedd nôl yn saff i Faes yr Yrfa ac wedi blino'n lân brynhawn dydd Gwener. Bu'n hymweliad yn un llwyddiannus iawn wrth i'r disgyblion gasglu llu o brofiadau ac atgofion fyddant yn siwr o sôn amdanynt am amser i ddod.
|