Am 4.30 y bore ar y 26ain o Hydref fe ddechreuon ni ar ein taith hir i'r Amerig, 45 o ddisgyblion eiddgar a 5 o athrawon nerfus.
Ar ôl saith awr yn yr awyren cyrhaeddom faes awyr JFK Efrog Newydd a chamu ar dir Americanaidd am y tro cyntaf.. Wrth yrru trwy Manhattan roedd pawb wedi glynu i'r ffenestri yn syllu ar y byd newydd yma. Y noswaith gyntaf, aethom ni i Central Park a Times Square, yna i Planet Hollywodd am sothach Americannaidd i swper. Roedd pawb yn flinedig ond oll wedi syfrdanu gan yr awyrgylch, maint y prydiau bwyd ac aruthredd pawb a phopeth!
Y bore wedyn ar ôl brecwast sylweddol cafon ni ein tywys o amgylch strydoedd enwocaf y ddinas ac ar ôl taith mewnweledol o amgylch canolfan y Cenhedloedd Unedig bu un o uchafbwyntiau'r trip, mynd i ben yr "Empire State Building." Roedd y golygfeydd yn anhygoel ac er gorfod aros oriau i gyrraedd y brig roedd pawb yn falch eu bod wedi mynd yno a gwylio'r ddinas yn nosi.
Roedd ein hymweliad â Ground Zero yn un emosiynol iawn, yn enwedig ar ôl gweld atgofion y dioddefwyr yn yr eglwys gyferbyn a gweld y lluniau a dinistr ar y safle. Roedd siom i ni wedyn gan fod y tywydd yn rhy wael i ni fynd i Ynys Elis, ond ar ôl gwlychu i'r croen yn y glaw a chael dyn yn canu i ni ynglyn ag un o'r athrawon a Princess Anne, roedd pawb yn hapusach! Y noson honno aethom i weld Phantom of the Opera ac roedd pawb wedi mwynhau er gwaethaf y blinder!
Ar ôl diwrnod o siopa cyrhaeddom ein gwesty yn Washington ac yna allan a ni am orymdaith i weld y Tŷ Gwyn gyda'r nos. Bore wedyn gwelom adeiladau eu llywodraeth ac amgueddfa'r Holocost. Ar ôl diwrnod arall o orymdeithio aethom allan yn ein gwisgoedd calan gaeaf i fwyta, siopa a mwynhau ein diwrnod olaf llawn yn America.
Ar ôl hyd yn oed mwy o siopa mewn canolfan enfawr dyma ni'n mynd yn ofidis yn ôl i'r maes awyr, yn ceisio peidio meddwl am yr holl waith ysgol oedd yn aros amdanom yn Nghaerdydd. Fe wnaeth pawb fwynhau a hoffwn ddiolch yn fawr i Mr Walpole am drefnu'r trip gwych hwn a'r athrawon a ofalodd amdanom. Gobeithio bydd trip arall cyn hir!
Gan Rebecca Pennar, Tamar Williams, Sophie Hughes a Sioned Gwyn
|