"Roeddwn i'n arfer credu mai dim ond llwyth yr Ata Monobo oedd yn bodoli ar wyneb daear ond nawr rwy'n gwybod bod pobl eraill hefyd, a 'ch bod chi 'n ceisio ein helpu ni." Geiriau croeso Dato Maximillian, pennaeth llwythol yr Ata Monobo yn uchel ym mynyddoedd a fforestydd glaw Ynys Mindanao yn Ne y Ffilipinas. Roeddwn yno, ynghyd â gweithwyr ieuenctid ar draws Prydain fel rhan o daith ymweld gyda Cymorth Cristnogol.
Bwriad y daith oedd profi'r modd roedd Cymorth Cristnogol yn gweithredu mewn gwledydd tlawd a deall sut roedd y prosiectau hynny yn gallu newid byd rhai o dlodion tlotaf y wlad.
Roedd yn brofiad ysgytwol a heriol i gael ein croesawu gan y bobl gyfeillgar yma oedd yn dioddef tlodi eithafol. Dyma bobl heb lais, bobl frodorol yr ynysoedd oedd yn gweld eu tiroedd yn cael eu llyncu gan ddatblygwyr enfawr neu gwmnïau mwyngloddio oedd yn rheibio'r fforest o goedydd neu fwynau gwerthfawr cyn gadael y tir yn anialwch.
Roedd partner Cymorth Cristnogol wedi bod yn gweithio gyda'r llwythau yma ers dros wyth mlynedd a chawsom weld cymdeithas a chymuned wedi'i thrawsnewid gan hyfforddiant a nawdd bwrpasol. Roedd y gymuned hon bellach yn hunangynhaliol gan dyfu amrywiaeth eang o gnydau ar lethrau na welsoch eu tebyg!
Eu pryder nawr oedd addysg eu plant. Er bod arwyddion calonogol fod mab Dato ar fin graddio fel athro ac am dreulio'r pum mlynedd nesaf yn ô1 yn ei gymuned, ef yw'r cyntaf erioed o'r llwyth i raddio o'r coleg!
Dyma ymweld hefyd ag Ynys Negros - un o ardaloedd gwaethaf ynysoedd am lafur plant. Roedd sgwrs y plant yma yn ddigon i' ch llethu - dyma blant yn gweithio yn y diwydiant tân gwyllt, yn llafurio ar blanhigfeydd siwgr ac yn y diwydiant pysgota. Yn aml dyma unig gynhaliaeth y teulu a'r plant yn gweithio hyd at bedair awr cyn mynd i'r ysgol.
Roedd cael cyfarfod â Carlos yn dipyn o fraint. Dyma ddyn ifanc 17 mlwydd oed na fyddai'n edrych o'i le yn nosbarth chwech Glantaf neu Blasmawr, ond roedd ei hanes yn dra gwahanol. Ef fu 'n cynnal ei deulu ers yn 11 mlwydd oed, treuliai dridiau yr wythnos yn torri neu 'n trin y siwgr cân, treuliai dridiau hefyd yn yr ysgol a diwrnod wedyn yn yr eglwys.
Cafodd ei ethol yn gadeirydd ei gyngor ieuenctid a thrwy hynny ennill ysgoloriaeth o £34 y mis - talai £20 i 'w deulu, £3.20 i'r eglwys a thalu ei ffioedd a'i gynhaliaeth o'r gweddill. Er hyn i gyd ei dystiolaeth oedd fod "Duw wedi bod yn dda imi".
Ar ô1 dysgu am ddatblygiad byd a gwaith elusennau ers dros ddeng mlynedd roeddwn yn ymwybodol iawn o ffeithiau tlodi. O'i brofi - ac o fyw ynghanol y tlodi difäol hwn - daeth yn realiti ac yn her gwirioneddol.
Diolch i Cymorth Cristnogol am fy ngwahodd ar y daith ac i Y sgol Gymraeg Plasmawr am fy rhyddhau o hualau amserlen a chefnogi fy ymweliad â'r wlad hudol a phwerus hon.
Matthew Evans
Pennaeth y Chweched
Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.