91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Bryn Terfel Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
Mawrth 2008
Sêr ac enwogion yng nghyngherddau'r Eisteddfod.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Gaerdydd a'r Cylch yn agor yn swyddogol ar nos Wener, Awst 1af gyda chyngerdd TRI10 sef cyfle i ddathlu addysg Gymraeg yng Nghaerdydd a phenblwyddi arbennig y ddwy ysgol uwchradd.

Nos Sadwrn, Awst 2ail cynhelir noson gerddoriaeth amrywiol gan Gorau a Bandiau Ysgolion Uwchradd Caerdydd a'r Fro gyda'r Gymanfa Ganu draddodiadol, o dan arweiniad Alun Guy, yn dilyn ar nos Sul, Awst 3vdd.

Croesawn Bryn Terfel yn ôl i lwyfan y Brifwyl ar Nos Lun wrth i'r Eisteddfod lwyfannu Offeren Verdi. Yn rhannu'r llwyfan gyda Bryn bydd y soprano Anja Harteros a Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y 91Èȱ¬.

Talwn deyrnged i un o arwyr Cymru ar nos Fawrth, Awst 5ed mewn noson arbennig, Grav - Yma o Hyd. Ymunwch â ffrindiau a rhai o hoff artistiaid Grav wrth i ni ddathlu bywyd cawr o Fynyddygarreg.

Cawn noson o gystadlu ar nos Fercher gan gynnwys Gwobr Richard Burton, unawd sioe gerdd y Côr Ieuenctid dan 25 a llawer mwy. Yna ar nos Iau cynigir dewis o 2 gyngerdd: yn Neuadd Dewi Sant cewch gyfle i fwynhau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru o dan arweinyddiaeth Arwel Hughes tra bydd y pafiliwn dan ei sang gyda rhai o sêr mwyaf Cymru yn llwyfannu noson yr C Factor gyda Connie Fisher, Cerys Mathews, Shan Cothi, Catrin Finch, Caryl Parry Jones a Chôr Cantorion.

Cynhelir cystadleuaeth y Corau cymysg ar Nos Wener ac yna i gloi'r wythnos cynhelir cyngerdd côr yr eisteddfod gyda Karl Jenkins yn arwain yr ail hanner wrth i'r côr berfformio un o gyfansoddiadau'r cyfansoddwr o Benclawdd, Dewi Sant. Mae'n addo bod yn ddiweddglo bythgofiadwy gan fod y côr yn ymgorfforiad o nifer o brif gorau'r ddinas gan gynnwys: Cantorion Creigiau, Caerdydd; Côr Merched Canna, côr Meibion TA, Côr Polyffonig Caerdydd, Côr Philarmonig Caerdydd, Côr Ardwyn, Côr Caerdydd ynghyd â nifer o bobl sydd wedi ffurfio côr arbennig ar gyfer yr Eisteddfod.

Mae tocynnau ar gyfer yr holl berfformiadau yma ar gael o Swyddfa'r Eisteddfod drwy ffonio 0845 122 1176 neu ewch ar lein. Os am fanylion pellach cysylltwch â'r Swyddfa am gopi rhad ac am ddim o'r Llyfryn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý