Wrth gerdded dros bont Treganna, heibio i'r Stadiwm a gwesty'r Holiday Inn, daw'n amlwg bod rhywbeth wedi newid yn nhirlun y ddinas. Mae'r sgaffaldiau wedi'u tynnu i ddatgelu cloc tlws y castell unwaith yn rhagor, a rhywbeth digon tebyg i sgaffaldiau wedi ymddangos ar draws yr olygfa. Mwya' sydyn, mae na rywbeth na ellir ond ei alw yn 'strwythur' yn rhwystro'r olygfa o'r hen waliau cerrig - yn stribedi modern o ddeunydd dienw coch, gwyn a du. Ac yn lle stribyn braf o borfa las i ymlacio ynddo rhyw amser cinio yn haul braf Mehefin - iawn, yn cuddio rhag y colomennod budur a'r gwylanod cecrus ac yn ceisio cyrraedd man uwchlaw bloeddio traffig canol y dre - bellach mae yna gyfleuster arloesol newydd ar hen slabyn mawr o goncrit llwyd lle gall ymwelwyr â'r ddinas hardd brynu tocynnau i'r castell a phob math o swfenîrs o Gymru. Dychmygwch yr holl drugareddau Cymreig y gallwch eu canfod yno - o lyfr ryseitiau o Gymru, i gemwaith, i deganau meddal ar ffurf paen a phlu y peunod eu hunain, i grysau-t gyda chartŵn o ddraig goch ifanc ("Am I cute or am I cute'?"). Wel, does yna unman arall yn yr ardal yn gwerthu trysorau o'r fath, nac oes?
Barn un fenyw, yw hyn, wrth gwrs, ac mae'n rhaid bod y sawl a'i dyluniwyd ac a'i comisiynwyd yn gweld gwerth mawr yn y strwythur. Ond dal fy anadl ydw i - mae na luniau a ffensys pren yn dal heb eu tynnu ymhellach ar hyd y waliau cerrig. Tybed pa wledd weledol a/neu fasnachol sy'n ein disgwyl y tu ôl iddyn nhw...
Gwefan Caerdydd ar Lleol
|