O le rwyt ti'n dod yn wreiddiol?
Ces i ngeni ym mhrifddinas Ariannin sef Buenos Aires. Pan o'n i'n saith oed, symudodd fy nheulu a fi i Batagonia. i dref o'r enw Trevelin yn ardal yr Andes, yng Ngorllewin Chubut.
Ym mha ran o Gaerdydd rwyt ti'n byw?
Dw i'n byw yn Danescourt ger Llandaf.
Ers faint rwyt ti'n byw yng Nghaerdydd?
Dw i'n byw yng Nghaerdydd er 2001, ond symudais i Gwmbran a Phontypŵl i fyw am flwyddyn. Des i 'nôl i Gaerdydd yn 2004.
Beth fuest ti'n ei wneud cyn / ar ôl symud yma?
Dechreuais i ddysgu Cymraeg yn Ariannin. Yn 2001 des i i Gymru i astudio rhagor o'r iaith; a chwrddais â David ar gwrs Cymraeg Llanbedr Pont Steffan. Mae David yn dod o Lundain ac roedd e'n astudio ym Mhrifysgol Glasgow. Erbyn hyn, mae e'n gweithio i'r Cynulliad Cenedlaethol. Priodon ni yn 2002 ac mae mab gyda ni o'r enw Ruaraidh Gruffydd Cantero Warren. Mae Ruaraidli yn bump ac yn mynd i Ysgol Pencae yng Nghaerdydd. Mae'n siarad Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg. Mae'n fachgen hyfryd a hapus iawn!
Dw i wedi bod yn astudio'r Gymraeg ac wedi cael cymhwyster ym Mhrifysgol Caerdydd i ddysgu'r Gymraeg i Oedolion. Dw i'n mwynhau'r gwaith yn fawr iawn fel tiwtor Cymraeg a Sbaeneg. Astudiais tuag at CGC Datblygiad, Gofal ac Addysg Plant a nawr, dw i'n gweithio mewn cylch meithrin.
Beth yw dy waith di erbyn hyn?
Dw 'i'n arweinydd Cylch Meithrin Pentrebaen yng Nghaerdydd. Dw i'n gweithio yno bob bore gyda phlant 2 a hanner - 4 oed. Mae'n waith caletach na mae pawb yn meddwl, ond mae'n bleserus iawn. Mae bron pob plentyn yn y cylch meithrin yn dod o deuluoedd di-Gymraeg, felly mae'n deimlad gwych pan maen nhw'n siarad Cymraeg gyda ni.
Dw i hefyd yn dysgu Sbaeneg a Chymraeg gyda'r nos yng Nghanolfan Dysgu Oedolion Radur. Dw i'n gweithio yno bedair noson yr wythnos ac un prynhawn; dw i'n dysgu Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg, Sbaeneg drwy gyfrwng y Saesneg a Chymraeg i Rieni. Dw i'n mwynhau fy ngwaith yn fawr iawn.
Pam wnest ti benderfynu dysgu Cymraeg?
Pan o'n i'n byw ym Mhatagonia roeddwn i'n mynychu dosbarthiadau canu gyda menyw o'r enw Sylvia Baldor o Drevelin. Mae gwreiddiau Cymreig gyda hi felly roedd hi'n arfer fy nysgu i ganu caneuon yn Gymraeg. Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am yr iaith na sut i'w hynganu felly cofrestrais i yn Ysgol Gymraeg Trevelin er mwyn cael gwersi Cymraeg. Ar ôl pedair blynedd o 'Ddosbarth Nos' unwaith yr wythnos mi ges i ysgoloriaeth i fynd ar Gwrs Haf Llanbed.
Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Dw i'n hoffi teithio a chanu felly bob penwythnos dw i'n mynd gyda fy nheulu i deithio o gwmpas Prydain. 'Dyn ni wedi teithio o gwmpas y wlad hon ers dros 6 blynedd, ac wedi dod i adnabod llawer o lefydd anhygoel. Dw i'n canu gyda Chôr Godre'r Garth yn Efail Isaf bob nos Sul. Mae'r côr yn llwyddiannus iawn ac mae'r bobl yno'n hyfryd.
Be sy'n gwneud i ti chwerthin?
Dw i'n chwerthin llawer iawn gyda fy mab Ruaraidh, mae e'n gymeriad sy'n siarad tair iaith. Weithiau mae e'n cymysgu'r tair iaith pan mae'n siarad â fi ac mae'r canlyniad yn ddoniol dros ben. Mae Ruaraidh yn trio cyfieithu caneuon er mwyn eu canu nhw i fy rhieni yn yr Ariannin ac mae hynny'n ddoniol hefyd! Dw i'n dwli ar gomedi Prydeinig ac yn hoff iawn o gyfresi doniol fel The Vicar of Dibley ac o gomediwyr fel Peter Kay a Billy Conolly. Dw i'n falch iawn fy mod i'n siarad y Gymraeg a Saesneg oherwydd bod llawer o bobl arbennig o dda (a doniol!) yn y byd Seisnig hefyd.
Beth rwyt ti'n ei golli am yr Ariannin?
Dw i'n colli 'nheulu, fy ffrindiau, a'r BWYD!! Mae'r cig yn hyfryd yn Ariannin ac mae pawb yn mwynhau cael bwyd gyda ffrindiau a siarad o gwmpas y bwrdd am oriau. Dw i'n mcddwl ein bod ni wedi cael hynny gan yr Eidalwyr a symudodd i'r Ariannin: mae'r teulu'n bwysig iawn i ni. Dw i hefyd yn colli golygfeydd yr Andes a phan dw i'n mynd i Ogledd Cymru neu ucheldiroedd yr Alban dw i'n hiraethu am Drevelin.
Ble rwyt ti'n hoffi mynd am wyliau?
Ariannin wrth gwrs! Ond mae'n ddrud iawn mynd yno felly 'dyn ni'n teithio llawer o gwmpas Prydain neu Ffrainc.
Petaet yn cael y cyfle i wella neu newid rhywbeth yng Nghaerdydd, beth fyddet ti'n ei wneud?
Baswn i'n gwella Gorsaf Fysiau Caerdydd. Mae'n olygfa ofnadwy i ni bobl Caerdydd a'r ymwelwyr hefyd. Baswn i hefyd yn dod â phobl Caerdydd at ei gilydd yn amlach gan drefnu "Gŵyl Pobl y Byd" neu rywbeth tebyg. Mae llawer iawn o bobl sy' wedi dod o bedwar ban y byd yng Nghaerdydd. a 'dyn ni ddim yn gwybod unrhyw beth amdanynt! Mae Caerdydd yn gosmopolitaidd iawn erbyn hyn a dylen ni ddathlu'r ffaith hon gyda rhywbeth sy'n arbennig i bawb.
Ble rwyt ti'n gweld dy hun mewn deng mlynedd?
Dw i'n berson uchelgeisiol a dweud y gwir ond dw i hefyd yn realistig. Dw i'n meddwl byddwn ni'n aros yng Nghaerdydd oherwydd ein bod ni wedi prynu tÅ· yma ac mae fy mab Ruaraidh yn hapus yn yr ysgol a'r ardal. Felly dw i'n meddwl y bydda i'n gweithio'n galed, gyda swydd lawn amser ac yn hapus gyda theulu ... mwy o faint efallai?!