Enillodd y ganolfan wobr Cymdeithas Rheolaeth Theatrig 2008 am ansawdd uchel ei gwasanaeth i'r cyhoedd.
Derbyniodd tim rheoli'r ganolfan y wobr - 'Oscar' y diwydiant - yng nghinio blynyddol y TMA yng nghalon ardal theatrau Llundain. Roedd pedair theatr ar draws y DU ar y rhestr fer yn y categori hwn, ond cryfder a dyfnder cyflwyniad y ganolfan a fu'n fuddugol.
Dywedodd Prif Weithredwraig y Ganolfan, Judith Isherwood: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr bwysig hon. Rydym wedi darparu croeso twym galon Cymreig i dros bedwar miliwn a hanner o ymwelwyr ers i ni agor ein drysau llai na phedair blynedd yn ôl.
"Rydyn yn ymdrechu'n galed i ddarparu'r gwasanaeth gorau oll i'n cwsmeriaid ym mhob ffordd, o'r funud y dônt mewn trwy'r drws. Mae'r wobr yn amlygu gwaith caled pob aelod o staff y ganolfan a'r ymdrech yr ydym yn ei wneud i fod y theatr fwyaf croesawgar yn y DU".
Yn bedair oed eleni, mae Gwobrau Rheolaeth y TMA yn dathlu rhagoriaeth o fewn y celfyddydau mynegiannol. Maent wedi sefydlu eu hunain fel dull pwysig o gydnabyddiaeth gyhoeddus am safon uchel y gwaith sydd yn cyfrannu tuag at lwyddiant parhaus y diwydiant.
Mae Gwobr y Theatr Fwyaf Croesawgar yn cydnabod cyflawniadau theatr, canolfan gelfyddydau neu leoliad unigol wrth ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'r cyhoedd.
|