Go anaml y byddai neb yn cyfeirio ato fel Y Parchedig er ei fod yn fawr ei barch ym mhob man. Max oedd e i bawb ac mae hynny'n dweud llawer am ei bersonoliaeth ddiymhongar a chyfeillgar. Roedd Max yn 79 oed pan fu farw ond feddyliodd e erioed y byddai'n well iddo ddechrau hamddena a gorffwyso. Os byddai Max yn gweld angen yn rhywle byddai gyda'r cyntaf i gynnig cymorth.
Cafodd ei eni yng Nghaerdydd ac ar ôl cyfnod yn y llynges adeg y rhyfel, ac yna graddio yn y Brifysgol, bu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr yn y Ferwig. Daeth yn ôl i Gaerdydd wedyn a chafodd ei benodi yn athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Yn ystod y cyfnod hwn y dechreuodd ei ymlyniad i Rieni dros Addysg Gymraeg.
Ar ôl ei gyfnod fel athro, cafodd ei benodi yn Ymgynghorydd Iaith i Sir Forgannwg ac yna'n Uwch Ymgynghorydd ym Morgannwg Ganol. Roedd yn fwrlwm o syniadau a bu llwyddiant y cyrsiau Cymraeg i oedolion yn Nhy Dyffryn yn gyfrifol am symbylu nifer fawr o ddysgwyr i ddod yn rhugl yn yr iaith.
Ymddeolodd yn gynnar o fyd addysg gan iddo deimlo galwad gref i wneud cyfraniad i ddyfodol yr Eglwys yng Nghymru. Yn wir, bu ei deyrngarwch a'i ffyddlondeb i Eglwys Dewi Sant fel darllenwr-lleyg a llawer o swyddi eraill yn ddiarhebol.
Cyflawnodd y cwrs hyfforddi a chafodd ei sefydlu yn Ficer y Plwyf yn Llanfihangel-ar-Arth a Phencader. Gellid dadlau mai hwn oedd ei gyfnod mwyaf llwyddiannus. Llwyddodd i greu adfywiad yn y ddwy eglwys a'i gryfder mawr oedd ei gyfraniad cymdeithasol i holl fywyd yr ardal.
Dychwelodd i Benarth lle daliodd ati i weithio'n ddygn yn Eglwys Dewi Sant. Yn ogystal â hyn byddai'n dysgu dosbarthiadau Cymraeg, roedd yn weithgar iawn dros y Lleng Brydeinig ym Mhenarth ac roedd yn ysgrifennydd ymddiriedolwyr Ty'r Cymry am dros 30 o flynyddoedd.
Bydd Cymru yn dlotach o golli cymeriad mor lliwgar a diddorol ac estynnir y cydymdeimlad llwyraf i Sian, Iwan a Dafydd a'u teuluoedd.
Erthygl gan John Albert Evans
|