Cyfle i'r eglwys ddiolch a
dathlu'r hyn a fu, a'r hyn ydym, oedd yr
Oedfa Gymun Foreol gan ganolbwyntio ar
ddau lun ieuenctid
Minny Street yn 1901 a'r
criw cyfatebol yn 2009! Gyda'r hwyr daeth
cyfeillion o eglwysi Cymraeg y ddinas atom.
Cafwyd oedfa fendithiol iawn gyda'r
Gweinidog yn ein tywys i Timotheus II a
chanolbwyntio ar "y peth gwerthfawr". Fe'n
hatgoffwyd nad bwrw trem yn ôl yw unig
ddiben dathlu ond ein hysbrydoli i gynnal y
tân i'r dyfodol. Cawsom ein hannog i gynnig
ein hunain i'r gwaith o ddiogelu "y peth
gwerthfawr a ymddiriedwyd i'n gofal".
Bu edrych ymlaen ers tipyn at ddyfodiad
Cyfrol y Dathlu, ac ar nos Lun gyntaf mis
Mehefin gwelwyd lansio Llewyrch Ddoe,
Llusern Yfory. Mewn ychydig dros gant o
dudalennau sy'n cynnwys dros 100 o luniau
hen a chyfredol ceir hanes yr eglwys. Mawr
yw ein diolch i'r tri golygydd, John Gilbert
Evans, Glyn E. Jones ac Iolo Walters ynghyd
â Gwasg Gomer am sicrhau fod y gyfrol wedi
dod i law mewn pryd!
Yn ystod y lansiad,
cyflwynwyd copi cyntaf y gyfrol i'r Parchedig
Owain LlÅ·r Evans gan Ysgrifennydd yr
Eglwys, Bethan Jones, a chyflwynwyd copïau
gan Owain LlÅ·r i gynweinidogion
yr Eglwys
ac i Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr
Annibynwyr, y Parchedig Ddr Geraint Tudur.
Ein Gweinidog wnaeth ein harwain o
amgylch y capel yn ystod Cwrdd Gweddi'r
dathlu y noson ganlynol; canolbwyntio ar
wahanol agweddau o'n haddoliad wrth
symud o gefn y capel i'r blaen, ac i'r sêt fawr.
Drwy gydol y mis gwelwyd arddangosfa o
luniau a chreiriau hen a chyfredol yn y Festri.
Diolchwn i'r gwirfoddolwyr wnaeth dreulio
oriau lawer yn hel a didoli'r cyfan, eu gosod
allan a'u labeli fel bod pawb yn medru
mwynhau eu gweld, eu darllen a hel atgofion.
Cafwyd hefyd dau gyflwyniad gan yr Ysgol
Sul. 'Cloc' oedd canolbwynt cyflwyniad y
plantos ac
fe'n harweiniwyd o un Arglwydd
i'r deuddeg disgybl. Cyflwynwyd rhodd o
blac pres ganddynt i'w osod yn y pulpud
gyda'r geiriau "Syr, fe hoffem weld Iesu".
Bu'r plant wrthi'n edrych yn ôl dros hanes a
gweinidogaeth wyth gweinidog Minny Street.
Neges waelodol yr wyth oedd mai "cariad yw
Duw".
Cyflwynwyd rhodd i'r eglwys
ganddynt hwythau hefyd plac
i'w osod ar
ddrws y capel gyda chyfieithiad Elfed ap
Nefydd Roberts o weddi a welir yn Eglwys
Sant Steffan, Walbrook, Llundain.
Yn ystod y mis cafwyd nifer o oedfaon
pregethu pwrpasol a heriol gan ein
Gweinidog. Bu Clwb yr Ieuenctid yn treulio
amser yn edrych ar yr arddangosfa cyn
cymryd rhan mewn cwis, trefnwyd taith
gerdded arbennig a chawsom gyfle, dan
arweiniad Cylch Madagascar, i ddathlu ein
gefeillio ag Eglwys y Tranovato yn yr Ynys
Fawr.
Dros gyfnod y dathlu, harddwyd blaen
y capel gan faner fawr oedd yn glytwaith o
enwau a fu, ac y sydd, â chysylltiad â Minny
Street a'r rheini wedi'u gosod at ei gilydd gan
Lona Evans i amlinellu croes. Gydol y mis
canu emynau a thonau o waith rhai a fu, neu
sydd, yn aelodau yn ein mysg y buom - rhai
ohonynt yng Nghaneuon Ffydd a Chaniedydd
yr Ifanc, ond eraill yn cael eu canu gan
gynulleidfa am y tro cyntaf. Yn ei mysg
roedd emyn newydd y Parchedig Huw Ethall
a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer ein
dathlu. Fe fu hefyd yn torri Cacen y Dathlu.
Diolchwn yn ddiffuant iawn i Owain LlÅ·r am
ei holl arweiniad, ei waith a'i frwdfrydedd
diysgog dros holl baratoadau'r dathlu.