O risiau'r Amgueddfa Genedlaethol, Parc
Cathays am 1 o'r gloch ar ddydd Sul, 1
Mawrth, bydd Arglwydd Faer Caerdydd yn
croesawu'r dorf i'r brifddinas. Yna, bydd y
Parchedig Hywel Davies yn gofyn bendith
cyn i 6ed Orymdaith Genedlaethol Gŵyl
Dewi fynd ar ei hynt.
Dyma achlysur sydd bellach wedi tyfu i fod
ymhlith y pwysicaf yng Nghymru gyda thros
10,000 o bobl yn cymryd rhan yn 2008 -
achlysur y mae croeso i bob un o garedigion
y genedl gymryd rhan ynddo. Felly, dewch
yn llu ar
ddechrau'r Orymdaith neu gallwch
ymuno ar hyd y daith
Bydd yr Orymdaith yn ymlwybro'n
hamddenol trwy ganol y brifddinas, i lawr
Heol y Santes Fair a Rhodfa Lloyd George, i
gyfeiliant llu o fandiau sy'n cynnwys Bagad
Morgannwg, Band Pres Gwdig, a gwesteion
arbennig o Lydaw '
Bagadig Plougastell' o
PlougastellDaoulas,
a'r dawnswyr
'Bleuniadur' o St Pol de Léon. Ar y dydd
Gwener cyn yr Orymdaith, bydd y Llydawyr
yn ymweld ag Ysgol Plasmawr, ac ar y dydd
Sadwrn, yn perfformio yn Amgueddfa Werin
Sain Ffagan.
Daw'r Orymdaith i ben (tua 2 pm.) o flaen
y Senedd ym Mae Caerdydd, gydag
anerchiad gan yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.
'Os ydych chi'n caru Cymru, dylech fod
yno!'
|