DFE: Yn gyntaf, llongyfarchiadau mawr ichi ar gipio'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Sut ymateb ydych wedi ei gael ers bod yn brifardd?CJ: Diolch yn fawr, Dylan. Rhaid cyfadde mae'r ymateb wedi bod yn rhyfeddol, ac yn hynod garedig. Roeddwn wedi ymbaratoi'n feddyliol ar gyfer yr holl sylw yn yr Eisteddfod - y Seremoni ei hun, wrth gwrs, a sylw'r wasg yn union wedi hynny. Ond beth sydd wedi dod fel sioc - un bleserus iawn, cofiwch - yw'r ffordd mae pobl wedi bod yn cysylltu â mi ers hynny trwy lythyr, carden ac e-bost, ar y stryd, yn y banc ... Mae hynny wedi cynhesu fy nghalon yn fawr.
DFE: Roeddech yn agos iawn at y brig yng nghystadleuaeth y Goron y llynedd. Pa mor hawdd oedd mynd ati i gystadlu unwaith eto eleni?
CJ: Roedd dod mor agos at y brig y llynedd yn hwb aruthrol imi. Roeddwn wedi bod yn barddoni ers rhyw flwyddyn cyn hynny, a mentro dangos fy ngherddi i ambell un. Ond yn ofni bod y rheini'n gwenieithu wrth ymateb yn gadarnhaol iddynt. Y peth gwych am gystadlu eisteddfodol yw bod y cwbl yn digwydd dan ffugenw, a'r feirniadaeth wedyn yn onest a diduedd. Roedd cael ymateb mor gadarnhaol gan y beirniaid y llynedd wedi peri imi gredu bod ennill y Goron, o bosibl, o fewn fy nghyrraedd. Felly roedd rhaid cystadlu eto - er fy mod i'n ofni'r un pryd na fyddwn i'n llwyddo i gyrraedd yr un safon yr eildro.
DFE: Mae'ch cerddi yn ymateb i wahanol ddarnau o gelfyddyd gain, ac yn gwneud hynny o nifer o safbwyntiau gwahanol (gan gynnwys safbwynt ymwelydd i oriel, safbwynt yr artist ei hun a safbwynt y cymeriadau yn y darluniau). Pam dewis hynny'n fframwaith i'ch casgliad?
CJ: Nid peth newydd yw cyfosod geiriau a delweddau gweledol; bu bardd gwadd yn ymateb i Arddangosfa Gelf yr Eisteddfod Genedlaethol ers sawl blwyddyn bellach, a'r cynnyrch yn ymddangos wedyn ar dudalennau Taliesin. Mae cyfuno dau gyfrwng yn gallu creu effaith hynod rymus, ac roeddwn am arbrofi gyda hynny.
Dechreuodd fy nghasgliad gydag ymweliad i'r Amgueddfa Genedlaethol yr haf diwethaf i weld Run Raphael, Madonna of the Pinks. Ces i fy nghyffwrdd gan dynerwch y Run, ac rwy'n cofio meddwl ar y pryd, 'Hoffwn i ysgrifennu rhywbeth am hwn.' Peth amser wedyn y gwawriodd y posibilrwydd o gasgliad o gerddi am weithiau celf a dechreuais arni gyda rhai o'm hoff luniau yng nghasgliad y Chwiorydd Davies yn yr Amgueddfa - gwaith Renoir, Monet a Van Gogh - gan adael i'm dychymyg fynd â mi i rywle y tu hwnt i'r lluniau eu hunain, ond heb golli golwg arnynt chwaith.
DFE: A oes un o'r cerddi sy'n ffefryn arbennig gennych?
CJ: Mae hynny fel gofyn i fam p'un yw ei hoff blentyn! Oherwydd ci chysylltiadau personol mae 'gollwng', y gerdd a luniais yn sgil ffarwelio a'n mab hynaf wrth iddo gychwyn allan ar daith o gwmpas y byd ar ei ben ei hun, yn agos iawn at fy nghalon. Ond efallai bod y gerdd lliwddall' yn well o ran ei chrefft.
DFE: Byddai beirdd yr Oesoedd Canol yn aml yn cymharu eu crefft â chrefft y peintiwr neu'r artist. A ydych yn teimlo fod y greffi honno yn cael ci thanbrisio yn y Gymru Gymraeg sydd ohoni'?
CJ: Rwy'n credu ei bod yn wir dweud ein bod ni fel Cymry wedi colli golwg ar unrhyw syniad o draddodiad mewn celfyddyd weledol. Mae'r sefyllfa wedi cael ei hunioni'n ddiweddar trwy waith Peter Lord, er enghraifft, mewn cyfres o gyfrolau hardd sy'n ailgyflwyno'r traddodiad inni. Am y sefyllfa gyfoes, mae gennym nifer o artistiaid gwirioneddol dalentog a chyffrous sy'n ymateb i'r Gymru sydd ohoni yn eu gwaith, ond efallai bod angen cymorth ar y gynulleidfa i fedru 'darllen' ac ymateb i rai o'r gweithiau hyn.
DFE: Fe wyddech cyn y seremoni, wrth gwrs, mai chi oedd yr enillydd. Ond nid oeddech yn gwybod beth oedd yn y feirniadaeth. Sut brofiad oedd gwrando ar Derec Llwyd Morgan yn trafod eich gwaith o flaen y genedl?
CJ: Profiad a drodd fy nghoesau'n jeli!
DFE: Beth am y dyfodol'? A oes unrhyw beth arall gennych ar y gweill (neu ar yr îsl efallai)?
CJ: Mae sawl peth ar y gweill, ond dim cynlluniau mawr, chwaith. Mae ambell gerdd newydd yn hofran yn fy mhen, ond bod angen ymddisgyblu i weithio arnynt. Derbyniais gomisiwn am gerdd - peth sy'n fy nychryn braidd oherwydd dydw i erioed wedi ysgrifennu to order o'r blaen. Ac mae nifer o luniau yn yr Amgueddfa yma yng Nghaerdydd yr hoffwn ymateb iddynt o hyd. Ond yr hyn sy'n peri'r gofid pennaf imi yw bod ambell lun mewn orielau tramor yr hoffwn ysgrifennu amdanynt, ac rwy'n ofni y bydd raid trefnu rhyw wyliau bach pwrpasol i fynd i'w gweld 'yn y gynfas' fel petai. Hen dro!