|
|
|
Coron 2005 Darluniau Christine |
|
|
|
Dwy flynedd yn ôl, i'w helpu i ddygymod â salwch y dechreuodd Christine James, enillydd Coron Eisteddfod Eryri, farddoni.
"Fe gefais i salwch a chyfnod o wendid hir yn dilyn hynny ac yr oedd peidio â gallu gweithio yn sioc i'r system ac fe gychwynais i farddoni fel ffordd o ddod mas - ac yr oedd yn rhyw fath o gatharsis i weithio fy ffordd drwy'r dryswch a'r gwendid," meddai mewn cynhadledd i'r wasg wedi'r seremoni.
Beirniad yn llongyfarch Ar ddechrau'r gynhadledd honno ymwelodd Derec Llwyd Morgan â hi i'w llongyfarch - y beirniaid a draddododd y feirniadaeth o'r llwyfan a chyhoeddi mai hi, dan y ffugenw Pwyntil oedd yn fuddugol.
Bu Christine James, sy'n dod o gartref di-Gymraeg yn y Rhondda, yn fyfyrwraig iddo ef yn y brifysgol yn Aberystwyth.
Dywedodd Mrs James fod y farddoniaeth a enillodd iddi y Goron yn dra gwahanol i'r farddoniaeth y dechreuodd ei sgrifennu yn ystod ei gwaeledd a olygodd driniaeth lawfeddygol tra'r oedd ar ymweliad ag America.
"Roedd y rheini yn gerddi personol iawn - yn archwilio'r iselder a'r gwendid a ddilynodd y llawdriniaeth yn yr America a oedd yn dipyn o sioc i'r system. Roedd y profiadau cymhleth hynny yn dod mas yn y cerddi hynny," meddai.
Ychwanegodd i'r cerddi hynny fod yn help mawr iddi. "Yr oeddan nhw yn gatharsis," meddai.
Am gerddi'r Goron dywedodd mai cerddi yn sôn am brofiadau cyffredin ydyn nhw.
"Er bod yr ysgogiad i'r cerddi efallai yn uchel-ael fe wêl pobl pan fyddan nhw yn eu darllen mai profiadau cyffredin pobl gyffredin yw llawer iawn o'r profiadau yn y cerddi.
"Mae siom a gofid a gobaith ac anobaith - ac er efallai fod yr ysgogiad ei hun dipyn bach yn anghyffredin," meddai.
Caboledig a chyffrous Wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd Derec Llwyd Morgan ar ran Ifor ap Glyn a Jason Walford Davies, iddi fod yn hyfrydwch iddyn nhw dderbyn casgliad o farddoniaeth "mor gaboledig a chyffrous" ag un Pwyntil.
Yr oedd eisoes wedi disgrifio'r ymgeisydd fel "telynegwr manylbleth" yr oedd "golud" ei gerddi yn amlwg.
Wrth sôn am ei hymdriniaeth o ddarnau celf sydd yn ysgogiad i'r cerddi dywedodd i Pwyntil "eu defnyddio fel dechreubwyntiau i'w farddoniaeth gan hawlio'i bersbectif ei hun arnynt, ac allan ohonynt yn mynd i ddychymfyd newydd."
Dyfeisgarwch mentrus Ychwanegodd: "Mae'n rhaid wrth ddyfeisgarwch mentrus a sylwgarwch gwybodus i gyflawni'r gamp hon ond nid yw Pwyntil yn brin o'r naill na'r llall."
Casgliad a thema - testun amwysedd? Wrth gyflwyno'r feirniadaeth gyfansawdd ar y cyd mae'r beirniaid yn trafod union natur testun y gystadleuaeth eleni - "Casgliad o gerddi rhydd ar thema."
"Onid oes elfen gref o dyndra rhwng y cysyniad o 'gasgliad' ar y naill law a'r cysyniad o 'thema' ar y llall/
"Mewn ystyr greiddiol mae'r gair 'casgliad' yn arwyddocau amrywiaeth ac, at hyn, ryddid rhag gofynion thema benodol.
"Ond y mae 'ar thema' yn cyfyngu'r ymgeisydd ac megis yn negyddu'r rhyddid a awgrymir yn y gair 'casgliad'.
"Wrth gyd-feirniadu trafodasom fwy nag unwaith natur a lleoliad y ffin rhwng 'casgliad . . . ar thema' a 'dilyniant o gerddi,' rhywbeth y gofynnodd sawl Pwyllgor Llenyddiaeth o'r blaen amdano gan feirdd y goron.
"Anhestunoldeb yw un o feiau hanesyddol cystadlaethau'r Gadair a'r Goron. A'n gwaredo rhag ychwanegu anniffiniadrwydd at y beiau hynny," meddir.
|
|
|
|
|
|