|
|
|
Wynebu her ariannol Dyfroedd ariannol dyrys |
|
|
|
Er bod arweinwyr yr Eisteddfod am osgoi fel y pla ddefnyddio'r gair 'argyfwng' i ddisgrifio cyflwr yr Å´yl ar hyn o bryd nid oes amheuaeth ei bod, o leiaf, yn wynebu her arbennig iawn.
Nid yn unig y mae'n parhau heb gartref ar gyfer 2007 ond mae hefyd mewn dyfroedd ariannol hynod o ddyrys - er i gefnogwyr Eryri godi mwy na'r disgwyl o arian ar gyfer eu cronfa leol hwy.
Ond mae trafferthion ariannol yn dal i blagio'r Brifwyl yn ganolog ac nid yw'n gyfrinach y bu'n rhaid torri rhywfaint ar y wadn i ffitio'r droed eisteddfodol.
Pryder mwyaf Mewn adroddiad a gyhoeddwyd y mis diwethaf dywedodd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Y pryder mwyaf sy'n wynebu'r Eisteddfod ar hyn o bryd yw'r diffyg yn y fantolen ar gyfer costau gweinyddol canolog."
Eglura i hynny ddigwydd yn dilyn penderfyniad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg cyn belled yn ôl â 1998 i gwtogi ei grant blynyddol i'r Eisteddfod.
Yn sgil hynny collwyd tri aelod o staff.
Fel yr oedd Cyn y cwtogiad, yr oedd grant y Bwrdd Iaith i'r Eisteddfod yn £376,000 ond i lawr i £276,000 erbyn 1999 gyda chost gweinyddiaeth ganolog yr Eisteddfod £100,000 yn fwy na'r grant!
Cynyddodd y grant yn raddol o 2001, fodd bynnag, ond er ei fod bellach yn £400,000 cwyn yr Eisteddfod yw y dylai fod £60,000 yn fwy na hynny i gyfateb i lefel 1997.
Eisteddfodau anodd Aeth pethau o ddrwg i waeth yn dilyn eisteddfodau bregus yn ariannol yn 2001 a 2002 ac erbyn Casnewydd, y llynedd, doedd dim digon o arian yn y pwrs i dalu biliau a hynny'n peri i Lywydd y Llys, R Alun Evans, lansio apêl ariannol.
Yn y diwedd, rhoddodd y Cynulliad £160,000 i gael y Brifwyl allan o dwll a fyddai wedi ei gwneud yn fethdalwr.
Ond yn ystod ei ymweliad ef â'r Eisteddfod gwnaeth y Prif Weinidog Rhodri Morgan hi'n glir nad oedd pwll diwaelod o arian.
Mewn adroddiad ar wefan yr Eisteddfod, eglura Elfed Roberts, y cyfarwyddwr: "Y flwyddyn diwethaf fe ymwelom â Chasnewydd, ardal sydd ddim efo traddodiad Eisteddfodol cryf. Yn sgil hyn roedd ein hincwm ticedi yn is ac ni lwyddodd yr Apêl Leol i godi cymaint o arian. Er hyn roedd hon yn Eisteddfod hynod o lwyddiannus, ac fe wnaeth gyfraniad economaidd a diwylliannol mawr i'r ardal.
"Ond heb y grant ychwanegol o £160,000 gan Lywodraeth y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith, a'r £125,000+ sydd wedi cael ei godi gan Apêl y Llywydd, byddai dyfodol yr Eisteddfod wedi bod mewn peryg."
Yn hyderus "Rydym yn hyderus y gallwn godi digon o arian ar gyfer saith o bob 10 Eisteddfod, ond os ydym i barhau i gymryd risg ac ymweld ag ardaloedd a chynulleidfaoedd newydd, bydd rhaid i ni unai gael cronfa wrth gefn neu arian ychwanegol yn y dyfodol."
Cynlluniau arbed arian Yn ôl y wefan cyflwynodd yr Eisteddfod ei hun gynlluniau i arbed oddeutu £200,000 yn flynyddol ond yr ofn yw, os na fydd hynny yn ddigon, y bydd yn rhaid torri ar weithgareddau.
Meddai Elfed Roberts: "Byddai cynnydd o £65,000 yn ein grant blynyddol yn cael gwared â'r diffyg yn y fantolen . . . a byddai cynnydd o £100,000+ yn ein galluogi i gyflogi o leiaf un aelod ychwanegol o staff."
Fis Hydref diwethaf pan drosglwyddodd Alun Pugh AC, y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon ac Iaith Gymraeg y Cynulliad, £160,000 i'r Eisteddfod i ddatrys ei phroblemau tymor byr cyflwynwyd wyth o dargedau i'r Eisteddfod i ddiweddaru strwythurau, denu cynulleidfa ehangach, â hybu'r defnydd o'r Gymraeg.
Ar wefan yr Eisteddfod ar hyn o bryd mae adroddiad gan Elfed Roberts yn egluro pa gynnydd a wnaed:
a chlicio ar y geiriau "Adroddiad Cynnydd"
|
|
|
|
|
|