Cafwyd cyffro mawr yng Nghoed-y-Gof ar Ragfyr y cyntaf gyda dyfodiad tîm Blue Peter i'r ysgol. Mae Gethin Jones yn un o'n 'cyn' ddisgyblion a braf iawn oedd ei weld.
Roedd ein plant eisoes wedi casglu esgidiau i Malawi ac yn awr roedd pob un - yn cynnwys yr athrawon - yn gwisgo esgidiau glaw am ddiwrnod ac yn talu £1 am y fraint, hyn eto tuag at Malawi. Treuliodd y tîm fore cyfan yn yr ysgol a bu Gethin yn ymweld â phob dosbarth. Cafodd grys Coed-y-Gof a chasgliad o luniau mewn albwm ohono ef a'i gyfoedion tra roeddynt yn yr ysgol. Roedd e wrth ei fodd - a ninnau hefyd!
Yn ystod y bore bu Gethin yn chwarae gêm y 'wellies' gyda rhai o ddisgyblion yr ysgol, lle'r oedd posibilrwydd y byddent yn cael cynnwys digon amheus rhes o 'wellies' wedi eu tywallt drostynt! Bu hwyl a sbri ar y buarth wrth i weddill yr ysgol wylio'r gêm tra bod criw Blue Peter yn ffilmio.
Yn ogystal ag ymweliad Gethin cafwyd ymweliad gan Branwen Gwyn oedd yn yr un dosbarth â Gethin yng Nghoed-y-Gof. Gan ei bod hi yn gweithio i Tinopolis roedd Branwen yn ffilmio Gethin yn ffilmio plant Coed-y-Gof. Hyfryd oedd ei gweld hi hefyd. Diwrnod bythgofiadwy!
|