"Jyst gwneud e" yw'r gyfrinach, meddai Lowri Davies, a wahoddwyd i greu Plât Caerdydd 2008. Ond mae'r artist cerameg o Aberystwyth yn mynnu bod ei hymdrech i ddathlu ymweliad y Brifwyl â'r brifddinas yn eitha "traddodiadol". Y temtasiwn, meddai oedd gorchuddio'r platiau Wedgewood â thirluniau o Gaerdydd. Ond yn y pendraw, dewisodd saith prif adeilad sy'n cyfleu rhwysg ac urddas y ddinas.
Er i Lowri ddewis darlunio adeiladau cyhoeddus a diwylliannol y ddinas - o'r Senedd a Chanolfan y Mileniwm, i'r Castell a Neuadd y Sir yn slei bach, mae hi wedi cynnwys llun o gelf gyhoeddus - Blue Flash a Powerbox, greodd yr artist John Gingell, ar yr ls-orsaf Drydan yn y Bae.
Coch, fodd bynnag yw prif liw'r plât. "Roeddwn i eisiau rhywbeth oedd bach yn wahanol ac eisiau defnyddio un lliw," meddai. "Er mae coch yn galetach i'w danio nag un lliw arall, ond fe ddaeth yn y pendraw."
Ers sefydlu gweithdy yn stiwdios Fireworks yn 2003, mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth. Mae hi eisoes wedi cynrychioli Cymru yn arddangosfa fawr SOFA, Chicago ac mae taith ei sioe solo gyntaf newydd ddod i ben. Erbyn hyn, mae Lowri yn rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Stoke-on-Trent. Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001 dyfarnwyd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc i Lowri ac mae hi'n defnyddio'r arian er mwyn dilyn cwrs MA mewn Crochenwaith ym Mhrifysgol Staffordshire.
Mae Plât Caerdydd 2008 ar werth am £30 yr un, gyda chynhyrchiad o 300 wedi'u rhifo'n unigol.
|