Daeth myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Caerdydd yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd yng nghystadleuaeth medal y dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Patrick Bidder oedd ar y brig gyda Beth Smith yn ail a Daniel O'Grady yn drydydd.
Yn ôl y beirniaid roedd gwaith buddugol Patrick, Y Ffidlwr, yn dangos "gafael cadarn ar iaith ein gwlad a'i lle yn nyfodol personol y cystadleuydd. Dyma waith ysgrifenedig a sgwrsio rnwya cyflawn ar draws ystod o ffurfiau yn y gystadleuaeth. Mae ganddo iaith naturiol, bywiog a llawn hyder". Patrick ydi prif fachgen Ysgol Uwchradd Caerdydd eleni ac mae wedi derbyn cynnig amodol i Goleg Sant loan Caergrawnt i astudio Athroniaeth. Mae'n aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Er mwyn gwella ei Gymraeg mae'n ymarfer siarad efo disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Bu hon yn gystadleuaeth arbennig o ffrwythlon i Ysgol Uwchradd Caerdydd ers rhai blynyddoedd bellach. Mae llwyddiant eleni yn binacl ar record rhagorol Ysgol Uwchradd Caerdydd ac yn arbennig gwaith ymroddgar ac arweiniad diflino Pennaeth Adran y Gymraeg, Mrs Nerys Roberts. Dros y blynyddoedd diwetha mae myfyrwyr Nerys wedi sicrhau tri cyntaf, chwech ail a dau drydydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Tipyn o gamp. Llongyfarchiadau i Nerys a'r myfyrwyr. Dymuna Patrick ddiolch i'w athrawes, am ei hanogaeth a'i chefnogaeth bob amser i wneud yn siŵr ei fod yn parhau a'i addysg yn y Gymraeg.
|