Lle digon marwaidd yw Pontlottyn heddiw ond yn ei ddyddiau ef, roedd fel cwch gwenyn o brysur a daeth ei siop ddillad ar sgwâr Cwm Shôn Mathew yn boblogaidd yn syth; mor boblogaidd nes iddo agor ail siop yn 1858. Teimlai yn braf ei fyd yn 1868 pan briododd â Margaret, merch o Bontlottyn. Yn anffodus, cafodd honno'i tharo â'r ddarfodedigaeth yn fuan wedi ei phriodas a bu farw yn 1870. Gellwch weld ei beddfaen yn ymyl y capel sydd ar y sgwâr, dim ond ichi dorri ffordd trwy'r drysni sydd yno. Bu marw Margaret yn ergyd drom i David ac aeth ati fel lladd nadredd i geisio anghofio am yr ergyd a gawsai. Prynodd bedair siop a dau ddwsin o fythynnod ym Mhontlottyn ac agor dwy siop ddillad yn Abertyleri rhwng 1875 ac 1879. Ond roedd yn weledydd craff a gwelai fod oes aur Pontlottyn yn dod i ben. Trodd ei olygon tua'r de a phrynu rhif 23, Yr Aes, siop fechan yng Nghaerdydd. Bu'n llewyrchus, fel y gwyddom, ac ychwanegodd ati hi gyda'r blynyddoedd. Fe barhaodd yn llwyddiannus wedi ei farw yn 1919 ac mae sawl dinesydd wedi mwynhau oedi a hamddena yn y siop gartrefol hon. Mae'n ddiddorol nodi ei bod yn nwylo'r un teulu o hyd, a disgynnydd, Mr John Morgan, sydd bellach wrth y llyw. Ond mae'r rhod wedi troi. Erbyn heddiw, mae dyddiau'r siop deuluol yn dod i ben ac mae cymylau yn crynhoi uwch ei phen. Pan dduant, a phan ddaw'r adeg i gau'r drysau, os y daw, gallwn i gyd ddweud, "Bydd y golled ar ei hôl yn fawr."
|