Mae pwysigrwydd TÅ·'r Cymry yn hanes Cymry Cymraeg Caerdydd yn enfawr ac fe ddaeth hyn allan yn glir iawn yn sgyrsiau'r naw person a amlinellodd hanes y TÅ· hyd at yma. Robat ap Tomos, Llywydd TÅ·'r Cymry, a lywyddodd y noson a chyflwynwyd y siaradwyr gan Iorwerth Morgan, Ysgrifennydd y TÅ·.
Rhodd i Gymry Cymraeg Caerdydd oedd TÅ·'r Cymry gan Lewis Williams o'r Barri ym 1936. Ei fwriad oedd darparu cyfle i Gymry Cymraeg ymgynnull, i fudiadau Cymreig gyfarfod i hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant ac i weithio tuag at "statws dominiwn Cymraeg" i Gymry. Fe wireddwyd ei freuddwyd.
Yn Nhŷ'r Cymry y gwelwyd y cynnig cyntaf i sefydlu ysgol Gymraeg ei chyfrwng yn yr ardaloedd Seisnigedig. Ym 1937-38 'roedd Gwyn M Daniel ac eraill o griw Tŷ'r Cymry ar fin sefydlu'r ysgol yn y Tŷ. Ond ni sefydlwyd hi ar y pryd oherwydd bod y rhyfel yn nesáu ac i Arglwydd Faer Caerdydd fynnu mai cyfrifoldeb pwyllgor addysg y ddinas oedd sefydlu pob ysgol.
Cofiai Nia Royles, un o dair merch Gwyn Daniel, am DÅ·'r Cymry fel ail gartref ei thad. Ac eithrio'r Ysgol Sul, yn NhÅ·'r Cymry y cawsai'r ychydig addysg Gymraeg yn ei phlentyndod. Yno hefyd 'roedd Nia ac Ethni yn cynnal Uwch Adran yr Urdd bob nos Wener - adran a ddechreuwyd gan eu tad yn y tridegau cynnar.
Cartref gwreiddiol UCAC
'Roedd y TÅ· wedi datblygu'n ganolfan i ddegau o athrawon hyd yn oed cyn diwedd y tridegau ac yno y sefydlwyd UCAC ym 1940. Y llywydd oedd Dr Gwenan Jones Aberystwyth, yr is-lywydd, D J Williams Abergwaun, yr Ysgrifennydd Cyffredinol oedd Gwyn Daniel. Hywel J Thomas oedd y Trysorydd a Victor Hampson-Jones oedd yr Ysgrifennydd Adran Gyfraith. Roedd Gruff Hughes, Ysgrifennydd Cyffredinol presennol UCAC, yn cydnabod na fyddai UCAC yn bodoli oni bai am DÅ·'r Cymry. Gan amlinellu ystod gwaith yr undeb erbyn hyn, mynnai ef fod y TÅ· wedi gwneud cymwynas amhrisiadwy a Chymru wrth ddarparu'r cyfle i sefydlu UCAC a'i gynnal am ddeugain mlynedd drwy ei bencadlys yn y TÅ·.
Heb argoel am ysgol Gymraeg penderfynodd criw TÅ·'r Cymry sefydlu Ysgol Gymraeg fore Sadwrn yn y TÅ·. Ym 1943 oedd hynny ac er iddi ddirwyn i ben ym 1947 bu'n symbyliad i sefydlu ysgolion bach tebyg ac roedd nifer o blant Ysgol TÅ·'r Cymry yn blant cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg Caerdydd ym 1949.
Mynegodd y Dr Elunis Goodfellow a Janie Jones eu profiadau yn Ysgol TÅ·'r Cymry a chael eu cludo yno gan Hywel J Thomas, chwech ohonyn nhw mewn Morris 8. Mam Dr Elunis, Caroline Gibbs, oedd un o'r chwe athrawes a roddodd eu Sadyrnau am ddim gydol blynyddoedd y rhyfel. Mynnai Janie Jones fod Uwch Adran yr Urdd wedi parhau yn y TÅ· am ddegawd wedyn.
Enillodd Côr Cydadrodd Tŷ'r Cymry yn yr Eisteddfod Genedlaethol bum mlynedd o'r bron, gan roi'r gorau iddi pan ddyfarnodd y beirniad 99/100 o farciau iddo ac awgrymu mai teg fyddai rhoi cyfle i eraill yn y dyfodol. Yn bresennol ac yn cofio'r cyfnod yn iawn oedd Wynne Lloyd, arweinydd y Tŷ ddiwedd y pedwardegau a dechrau'r pumdegau.
Cychwyn yr ysgol feithrin
Cofiai Gwilym E Roberts y pumdegau yn Nhŷ'r Cymry, hefyd, ac fel oedd yr ystafell fawr yn orlawn hyd y drws bob nos Sul am wyth. fRoedd Gwilym, fel Owen John Thomas, ynglŷn â sefydlu'r ysgol feithrin gyntaf yng Nghaerdydd. Yn festri hen Eglwys y Crwys oedd hynny, ond cyn hir symudodd i Dŷ'r Cymry, lle pery'n llewyrchus o hyd. Braf oedd cael cwmni dwy o brifathrawesau'r Feithrin yn Nhŷ'r Cymry - Elaine Griffiths a fu'n brifathrawes am ddeunaw mlynedd a Jan Rees y brifathrawes bresennol. Hefyd Ann Williams a fu'n eu cynorthwyo am chwe blynedd tra 'roedd ei thair merch yn y Feithrin a hithau nawr yn drysorydd y Tŷ ac yn ymddiriedolwraig.
Roedd Gwilym Williams, Cricieth, yn llywydd y TÅ· mewn cyfnod o argyfwng a bu Eric Evans, Pontypridd, yn ysgrifennydd y TÅ· am flynyddoedd. Mae Dafydd Hampson-Jones yn gadeirydd ers blynyddoedd ar un o'r elusennau, sef Ymddiriedolaeth Bryntaf, sy'n defnyddio TÅ·'r Cymry fel ei swyddfa gofrestredig. Clywsai Dafydd am bwysigrwydd TÅ·'r Cymry gan ei dad, Victor Hampson-Jones.
Y Dr E Wyn James a arweiniai Eglwys Efengylaidd Gymraeg pan oedd yn cynnal ei hoedfaon yn NhÅ·'r Cymry." Cawsom hwylustod a chefnogaeth i gynnal ein cyrddau yn y TÅ·" meddai. "Tyfu y gwnaethom ni fel cynulleidfa yn NhÅ·'r Cymry nes i'r ystafell fynd yn rhy fach inni." Mae'n galondid i Bwyllgor y TÅ· bod yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg llewyrchus erbyn hyn, yn cofio am ei blynyddoedd yn NhÅ·'r Cymry.
Cartref Cymdeithas yr Iaith
Bu Cymdeithas yr Iaith yn y Tŷ am dros 30 mlynedd ac fe soniodd Gareth Kiff a gynrychiolai Gymdeithas yr Iaith, am y degawd y bu'n llafurio o'i swyddfa ar lawr ucha'r Tŷ fel swyddog i Gell Caerdydd. Am flynyddoedd roedd waliau Tŷ'r Cymry wedi eu papuro â thoriadau o bapurau newydd yn olrhain gweithgarwch aelodau'r Gell.
Soniodd Gareth am y dosbarthiadau dysgwyr fyrdd a drefnai'r Gell yn y TÅ· ddiwedd yr wythdegau ac yn y nawdegau. Cynhelid chwe dosbarth yr wythnos ar gyfer gwahanol lefelau o ddysgwyr ac ugeiniau yn cofrestru bob dechrau tymor.
Gareth, hefyd, a ddechreuodd Fenter Iaith Caerdydd yn NhÅ·'r Cymry.
Elusen arall sy'n defnyddio'r TÅ·'n gyson yw CAG / WEA. Bu'n cynnal dosbarthiadau llenyddiaeth a hanes Cymru, Cymdeithaseg a Sefydliadau Cymreig ers pymtheng mlynedd. Un o ffyddloniaid y dosbarthiadau a Chymdeithas y TÅ· yw Dewi Wyn Thomas a gyfarchodd y TÅ· ar ran yr elusen addysgol.
Mudiad arall a ddefnyddiodd DÅ·'r Cymry fel ei swyddfa genedlaethol oedd Mudiad Addysg Gristnogol Cymru. Y Parch. Casi Jones, gweinidog y Tabernacl y Barri nawr, oedd ei ysgrifennydd gweithgar tra bu yn y TÅ·.
Alan Jobbins oedd olynydd John Osmond a Robin Reeves yn y swydd o ysgrifennydd Ymgyrch Senedd i Gymru. TÅ·'r Cymry oedd pencadlys yr Ymgyrch am tua degawd ac oddi yno y trefnwyd y frwydr amhleidiol gan drefnu cyfarfodydd a dosbarthu cannoedd o filoedd o daflenni. Roedd gan DÅ·'r Cymry ei le yn y frwydr i ennill inni'r Senedd, oedd i'w hagor yn swyddogol drannoeth.
Cadwyd Owen John Thomas AC hyd yr olaf, er ei fod ef yn gysylltiedig â Thŷ'r Cymry dros ddegawdau. Gweithiai'n ddiflino dros gynifer o weddau ar y Gymraeg yng Nghaerdydd a hynny am ddeugain mlynedd. Ac ef a'i swyddfa etholaeth yn y Tŷ yw prif noddwr Tŷ'r Cymry ers chwe blynedd. Mae ef hefyd yn un o ymddiriedolwyr hynaf y Tŷ. Yn ei sylwadau hanesyddol ar Gymreictod Caerdydd, cyflawnodd eto ei gyflwyniad fel gwleidydd gwir ddiwylliedig ein Senedd.